logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Bydd yn dawel yn dy Dduw

Bydd yn dawel yn dy Dduw, ymlonydda ynddo ef, ac yn sŵn a therfysg byd fe gei ynddo noddfa gref; Duw yw fy nghraig a’m nerth a’m cymorth rhag pob braw, ynddo y mae lloches im pa beth bynnag ddaw; bydd yn dawel yn dy Dduw, ymlonydda ynddo ef, ac yn sŵn a therfysg byd […]


Fe ddaeth ddoe â’i siâr o ofid

Cerddwn Ymlaen Fe ddaeth ddoe â’i siâr o ofid a daeth pryder yn ei dro, gwelwyd hefyd haul yn gwenu a llawenydd yn ein bro: ond drwy’r lleddf a’r llon fe welwyd llaw yr Iôr yn llywio’n bywyd i’r yfory sy’n obaith gwiw. Mae’r yfory heb ei brofi, mae ei stôr o hyd dan sêl; […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 28, 2016

Fel yr hydd a fref am ddyfroedd

Fel yr hydd a fref am ddyfroedd, felly mae fy enaid i yn dyheu am fod yn agos er mwyn profi o’th gwmni di. Ti dy hun yw fy nerth a’m tŵr, a chyda thi, ‘rwyf finnau’n siwr mai tydi yw serch fy nghalon, ac O Dduw, addolaf di. Gwell wyt ti nag aur ac […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015

Mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf fi

Ysbryd yr Arglwydd Mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf fi,      ei law ef a’m tywys am ymlaen; danfonodd fi i rannu’r newydd da      a seinio nodyn gobaith yn fy nghân. Fe’m galwodd i gyhoeddi’r newydd da fod cyfoeth gwir ar gael i deulu’r tlawd, ac am ein bod drwy Grist yn blant i Dduw […]


Yn gymaint iti gofio un o’r rhain

Yn gymaint iti gofio un o’r rhain a rhannu’n hael dy grystyn gyda’r tlawd, a chynnig llaw i’r gwan oedd gynt ar lawr a’i arddel ef yn gyfaill ac yn frawd, fe’i gwnaethost, do, i’r Un sy’n Arglwydd nef, a phrofi wnei o rin ei fendith ef. Yn gymaint iti estyn llaw i’th god a […]