logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd, anfon o’r uchelder

Arglwydd, anfon o’r uchelder nerth yr Ysbryd ar dy was; gwisg ei fywyd â’th gyfiawnder, llanw’i galon ef â’th ras; dyro i lawr iddo nawr olud dy addewid fawr. Dyro iddo dy oleuni i gyflawni gwaith ei oes; arddel di ei genadwri i gael dynion at y groes; Frenin nef, rho dy lef ddwyfol yn […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015

Dos, Efengyl, o Galfaria

Dos, Efengyl, o Galfaria, ac amlyga allu’r groes; dangos i bechadur noddfa yn haeddiannau angau loes; cyfyng awr Iesu mawr drodd yn gân i deulu’r llawr. Dos, Efengyl, dros y gwledydd, ar adenydd dwyfol ras, gan gyhoeddi’r hyfryd newydd i dylwythau’r ddaear las; cariad Duw’n unig yw sylfaen gobaith dynol-ryw. Dos, Efengyl, drwy yr oesau, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015

Yr Arglwydd fendithiwn, cydganwn ei glod

Yr Arglwydd fendithiwn, cydganwn ei glod, ei enw fawrygwn tra byddwn yn bod: cyhoeddwn ei haeddiant a’i foliant di-fai; ei ras a’i ogoniant sy’n foroedd di-drai. Yr Arglwydd ddyrchafwn, efe yw ein rhan, ac ynddo gobeithiwn, mae’n gymorth i’r gwan: trwy’r ddaear a’r nefoedd ar gynnydd mae’r gân; ei ras drwy yr oesoedd wna luoedd […]