logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Breuddwydion oes

Breuddwydion oes Ymgasgla nawr; Gweledigaeth ddaw I’r sanctaidd fan.   Sanctaidd fan, rwy’n sefyll ar Sanctaidd fan, A’m cydymaith i yw Ceidwad byd. Llysg eirias dân Heb ddiffodd byth; Rwy’n sefyll nawr Mewn Sanctiadd fan. Datguddiwyd Duw I feidrol ddyn; Dinoetha’th draed Dyma Sanctaidd fan. Cyfieithiad Awdurdodedig: Natalie Drury, This is the place (Holy Ground): […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Clodforwn ac addolwn

Clodforwn ac addolwn, O! Arglwydd, clyw ein llef. Rwyt ti goruwch yr holl dduwiau, Greawdwr dae’r a nef. Pa fodd y mae mynegi Teimladau’r galon hon? Cyn lleied yw ein geirfa I ddechrau canu’th glod. ‘Does tafod drwy’r greadigaeth Sy’n haeddu datgan bri, Ond fe gawn ni glodfori’th enw I dragwyddoldeb hir. Nid oedd ond […]


Cyfiawn a sanctaidd

Cyfiawn a sanctaidd yw’th ffyrdd di, O! Dad; Plygwn, addolwn dy Fab di, Oen mad. Down i’th addoli am weddill ein hoes, Safwn yn gyfiawn o’th flaen drwy y groes. Arglwydd y nefoedd, mor ffyddlon wyt ti, Llewyrcha arnom, O! Seren mor bur. Cyfiawn a sanctaidd yw’th ffyrdd di, O! Dad; Plygwn, addolwn dy Fab […]


Dad yn y nefoedd

Dad yn y nefoedd, Bydded i dy enw di Gael clod drwy’r byd i gyd. Dad yn y nefoedd, Deled nawr dy deyrnas A gwneler dy ewyllys di. Wnei di f’arwain i gyda’th olau Sanctaidd? Rwyf am roi i ti bob awr sydd o’m bywyd, A sychedu wnaf o ddyfnderoedd f’enaid. Fe’th addolaf di o’r […]


Iesu, mawr yw dy ras

Iesu, mawr yw dy ras a mawr dy gariad ataf fi, Gwn am fy holl feiau’i gyd, ond parod wyt i faddau im. Hon yw fy nghân o fawl i ti; Clod i’r Duw byw a’i holl roddion drud. Ti wnaeth gyffwrdd y galon hon Waredwr ffyddlon. Iesu, dal fi yn dynn a gwared fi […]


Lle daw ynghyd

Lle daw ynghyd Ddau neu dri yn fy enw, Yno’r wyf; yno gyda chwi. Ac os bydd dau yn gytûn wrth weddïo, Ymbil taer yn fy enw i. Fy Nhad a wrendy’th weddi di; Gwrendy’th gri a’i hateb. Ac fe rydd y cyfan oll, Drwy nerth f’enw i. Graham Kendrick: Where two or three, Cyfieithiad […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Mae harmonïau’r nefol gân

Mae harmonïau’r nefol gân O flaen ei orsedd mad. Can mil o engyl seinia’n un Mewn côr o fawl i’r Tad. Mwy disglair yw dy olau pur Na’r sêr a’r lloer a’r haul; Dihafal yw Creawdwr byd Ac Ef yw’n cadarn sail. Ni saif dinasoedd ‘ddaear hon Am dragwyddoldeb hir, Ond wrth gynteddau perlog Nef […]


O gad im ddweud mod i’n dy garu

O gad im ddweud mod i’n dy garu, Diolch wnaf am fendithion mor ddrud; O gad im fyw yng nghysgodfa dy drugaredd, Gad im weld dy wyneb di. Boed i’r ddaear oll weld gogoniant Duw, Molwn ninnau yn unfryd ein cân. O gad im ddweud mod i’n dy garu, O fy Arglwydd, fy nghyfaill glân. […]