logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pwy yw hwn sy’n rhodio’r tonnau

Pwy yw hwn sy’n rhodio’r tonnau drwy’r ystorom ar ei hynt? Dyma Lywydd y dyfnderau, dyma Arglwydd mawr y gwynt. Er i oriau’r nos ei gadw ar y mynydd gyda’r Iôr, gŵyr am deulu’r tywydd garw a’i rai annwyl ar y môr. Os yw gwedd ei ymddangosiad yn brawychu’r gwan eu ffydd, mae ei lais […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 9, 2015

Suai’r gwynt

Suai’r gwynt, suai’r gwynt wrth fyned heibio i’r drws; a Mair ar ei gwely gwair wyliai ei baban tlws: syllai yn ddwys yn ei ŵyneb llon, gwasgai Waredwr y byd at ei bron, canai ddiddanol gân: “Cwsg, cwsg, f’anwylyd bach, cwsg nes daw’r bore iach, cwsg, cwsg, cwsg. “Cwsg am dro, cwsg am dro cyn […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 9, 2015

Wele’r Athro mawr yn dysgu

Wele’r Athro mawr yn dysgu dyfnion bethau Duw; dwyfol gariad yn llefaru – f’enaid, clyw! Arglwydd, boed i’th eiriau groeso yn fy nghalon i; crea hiraeth mwy am wrando arnat ti. Dyro inni ras i orffwys ar dy nerth a’th ddawn; tyfu’n dawel yn dy Eglwys, ffrwytho’n llawn. NANTLAIS, 1874-1959 (© Yr Athro S. Nantlais […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 9, 2015

Yn dy law y mae f’amserau

Yn dy law y mae f’amserau, ti sy’n trefnu ‘nyddiau i gyd, ti yw lluniwr y cyfnodau, oesoedd a blynyddoedd byd; rho dy fendith ar y flwyddyn newydd hon. Yn dy law y mae f’amserau, oriau’r bore a’r prynhawn, ti sy’n rhoddi y tymhorau, amser hau a chasglu’r grawn; gad im dreulio oriau’r flwyddyn yn […]


Yn y dwys ddistawrwydd

Yn y dwys ddistawrwydd dywed air, fy Nuw; torred dy leferydd sanctaidd ar fy nghlyw. O fendigaid Athro, tawel yw yr awr; gad im weld dy wyneb, doed dy nerth i lawr. Ysbryd, gras a bywyd yw dy eiriau pur; portha fi â’r bara sydd yn fwyd yn wir. Dysg fi yng ngwybodaeth dy ewyllys […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 9, 2015