logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fy Nhad o’r nef, O gwrando ‘nghri

Fy Nhad o’r nef, O gwrando ‘nghri: un o’th eiddilaf blant wyf fi; O clyw fy llef a thrugarha, a dod i mi dy bethau da. Nid ceisio ‘rwyf anrhydedd byd, nid gofyn wnaf am gyfoeth drud; O llwydda f’enaid trugarha, a dod i mi dy bethau da. Fe all mai’r storom fawr ei grym […]


Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn

Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn, lle mae Duw’n arlwyo gwledd, lle mae’r awel yn sancteiddrwydd, lle mae’r llwybrau oll yn hedd? Hyfryd fore y caf rodio’i phalmant aur. Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn, lle mae pawb yn llon eu cân, neb yn flin ar fin afonydd y breswylfa lonydd lân? Gwaith a gorffwys […]


Ti Arglwydd nef a daear

Ti Arglwydd nef a daear, bywha’n calonnau gwyw, dysg in gyfrinach marw, dysg in gyfrinach byw. Rho glust i glywed neges dy fywyd di dy hun; rho lygad wêl ei gyfle i wasanaethu dyn. Gogoniant gwaith a dioddef, a hunanaberth drud, lewyrcho ar ein llwybrau tra byddom yn y byd. Boed hunan balch ein calon […]