logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Agorwn ddrysau mawl

Agorwn ddrysau mawl i bresenoldeb Duw; pan fydd ein calon ni’n y gân ei galon ef a’n clyw. Creawdwr nerthoedd byd, efe, Gynhaliwr bod, yw’r un a rydd i ninnau nerth i ganu cân ei glod. Haelioni llawn y Tad, pob enaid tlawd a’i gŵyr; ei dyner air a’i dirion ras a ddena’n serch yn […]


Caraf yr haul sy’n wên i gyd

Caraf yr haul sy’n wên i gyd, Duw wnaeth yr haul i lonni’r byd. Caraf y gwynt a’i gri uwchben, Duw wnaeth y gwynt i sgubo’r nen. Caraf y glaw a’i ddagrau hir, Duw wnaeth y glaw i olchi’r tir. Caraf y sêr uwch golau’r stryd, Duw wnaeth y sêr yn lampau’r byd. Caraf y […]


Fe chwythodd yr awel ar Gymru drachefn

Fe chwythodd yr awel ar Gymru drachefn, clodforwn di, Arglwydd, fod gwyrth yn dy drefn: dihunaist ni’r meirwon, a’n codi drwy ffydd, a throi ein hwynebau at degwch y dydd. Molwn di, molwn di’n un teulu ynghyd, molwn di, molwn di, a’n cân dros y byd; cydweithiwn, cydgerddwn, cydfolwn gan fyw i roi iti’r cyfan, […]