logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

A yw f’enw i lawr? (O nid golud a geisiaf)

O, nid golud a geisiaf Ar y ddaear, fy Nuw, Ond cael sicrwydd yr haeddaf Ddod i’r nefoedd i fyw. Yng nghofnodion dy deyrnas, Ar y ddalen wen fawr, Dywed Iesu, fy Ngheidwad, A yw f’enw i lawr? A yw f’enw i lawr Ar y ddalen wen fawr? Yng nghofnodion dy deyrnas, A yw f’enw […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016

Clywch y canu lond yr awel!

Clywch y canu lond yr awel! Nodau pêr: Hwythau’r sêr Oll yn gwenu’n dawel. Llon y geiriau! Llawn o gariad Ydyw cân Engyl glân: “Ganed i chwi Geidwad”. Yn y pellter draw mi glywaf Lais y Crist: “Ffrindiau trist, Yn eich ing dewch ataf: Bwriwch ymaith wag obeithion; Ataf dewch: Llawenhewch, A gorffwyswch weithion”. At […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016

Dawel Nos

Dawel nos, ddwyfol nos! Gwenu mae seren dlos; Yntau’n awr, y Mab di-nam, Sydd ynghwsg ar lin ei fam, Draw, mewn hyfryd hedd, Draw, mewn hyfryd hedd. Dawel nos, ddwyfol nos! O! mor fud gwaun a rhos; Ond i glyw bugeiliaid glân Daw ryw bêr angylaidd gân, ‘Heddiw ganwyd Crist: Heddiw ganwyd Crist.’ Dawel nos, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016

Iesu, Geidwad bendigedig

Iesu, Geidwad bendigedig, ffrind yr egwan a’r methedig, tyner ydwyt a charedig; rho dy ras yn nerth i ni. Iesu, buost gynt yn faban yn y llety tlawd, anniddan; Brenin nef a daear weithian, dirion Arglwydd, ydwyt ti. Iesu, drosom buost farw ar y croesbren creulon, garw: dirfawr werth yr aberth hwnnw egyr byrth y […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016

O! Dewch yn rhydd (Gadewch yr ŵyn a’r defaid)

O! Dewch yn rhydd, Gadewch yr ŵyn a’r defaid, O! dewch yn awr O’r borfa lân i lawr. Na fyddwch brudd, Ond llawenhewch, fugeiliaid O! brysiwch ato ‘nghyd Ein Iôr, Ein Iôr Ein Iôr, iachawdwr mawr y byd. Cewch weld yn awr, Yng nghornel yr adeilad, Mewn preseb coed Yn faban diwrnod oed, Eich Ceidwad […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016

Oleuni nefol tyrd i lawr

Oleuni nefol tyrd i lawr Ar doriad gwawr yn dirion, Rhowch chwithau glust, fugeiliaid glân, I hyfryd gân angylion. Fe aned Mab ym Methlehem Ac iechydwriaeth yn ei drem: At breseb Iesu brysiwn, Oll ger ei fron ymgrymwn. O ganol hedd y Wynfa gain I blith y drain a’r drysni Mewn pryd y daeth Mab […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016