logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd nef a daear

Arglwydd nef a daear, ar d’orseddfainc gref, engyl fyrdd a’th folant ar delynau’r nef; dysg i ninnau uno yn yr anthem fawr, sain y moliant fyddo’n llenwi nef a llawr. Mawr a dyrchafedig yn y nef wyt ti; cofiaist o’th drugaredd am ein daear ni; maddau in anghofio grym y cariad drud sy’n cysgodi drosom, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 29, 2015

Bugail f’enaid yw’r Goruchaf

Bugail f’enaid yw’r Goruchaf, ni bydd mwyach eisiau arnaf; ef a’m harwain yn ddiogel i’r porfeydd a’r dyfroedd tawel. Dychwel f’enaid o’i grwydriadau, ac fe’m harwain hyd ei lwybrau; ar fy nhaith efe a’m ceidw yn ei ffyrdd, er mwyn ei enw. Yn ei law drwy’r glyn y glynaf, cysgod angau mwy nid ofnaf; pery’r […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 29, 2015

Molwn enw’r Arglwydd

Molwn enw’r Arglwydd, Brenin mawr y nef: Crëwr a Chynhaliwr bywyd ydyw ef llechwn yn ei gysgod pa beth bynnag ddaw, nerthoedd nef a daear geidw yn ei law. Molwn enw’r Arglwydd, sanctaidd yw efe, llewyrch ei wynepryd yw goleuni’r ne’; enfyn ef ei Ysbryd i sancteiddio dyn, nes bod daear gyfan fel y nef […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 29, 2015

O disgyn, Ysbryd Glân

O disgyn, Ysbryd Glân, o’r nefoedd wen i lawr i gynnau’r dwyfol dân yn ein calonnau nawr. Y ddawn a roddaist ti i’th Eglwys pan oedd wan a wnaeth ei gweiniaid hi yn wrol ar dy ran. O gael tafodau tân a phrofi’r nerthol wynt, anturiwn ninnau ‘mlaen fel dy ddisgyblion gynt. O’th garu tra […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 29, 2015

Ymgrymwn ger dy fron

Ymgrymwn ger dy fron ti Dduw ein tadau; O llanw’r oedfa hon â’th ddylanwadau: o blith teganau ffôl i wres dy gynnes gôl O galw ni yn ôl o’n holl grwydriadau. Allorau fwy na mwy gaed ar ein llwybrau, a rhoesom arnynt hwy ein hebyrth gorau: ond trodd addoli’r byd yn golled drom i gyd; […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 29, 2015

Ynot, Arglwydd, gorfoleddwn

Ynot, Arglwydd, gorfoleddwn, yn dy gariad llawenhawn, cariad erys fyth heb ballu a’i ffynhonnau fyth yn llawn: Frenin nef a daear lawr, molwn byth dy enw mawr. Er i ti reoli bydoedd, ymhob storom lem a ddaw cedwi’r weddw dan dy gysgod a’r amddifad yn dy law: Frenin nef a daear lawr, molwn byth dy […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 29, 2015