logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dechreuwch, weision Duw

Dechreuwch, weision Duw, y gân ddiddarfod, bêr; datgenwch enw mawr a gwaith a gras anhraethol Nêr. Am ei ffyddlondeb mawr dyrchefwch glod i’r nen: yr hwn a roes addewid lawn yw’r hwn a’i dwg i ben. Mae gair ei ras mor gryf â’r gair a wnaeth y nef; y llais sy’n treiglo’r sêr di-rif roes […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015

Gwaith hyfryd iawn a melys yw

Gwaith hyfryd iawn a melys yw moliannu d’enw di, O Dduw; sôn am dy gariad fore glas, a’r nos am wirioneddau gras. Melys yw dydd y Saboth llon, na flined gofal byd fy mron, ond boed fy nghalon i mewn hwyl fel telyn Dafydd ar yr ŵyl. Yn Nuw fy nghalon lawenha, bendithio’i waith a’i […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015

O Arglwydd da, argraffa

O Arglwydd da, argraffa dy wirioneddau gwiw yn rymus ar fy meddwl i aros tra bwyf byw; mwy parchus boed dy ddeddfau, mwy annwyl nag erioed, yn gysur bônt i’m calon, yn llusern wiw i’m troed. Myfyrdod am Gyfryngwr a phethau dwyfol, drud fo’n llanw ‘nghalon wamal yn felys iawn o hyd, a bydded prawf […]


O Dduw, ein nerth mewn oesoedd gynt

O Dduw, ein nerth mewn oesoedd gynt, ein gobaith am a ddaw, ein lloches rhag ystormus wynt a’n bythol gartref draw. Cyn llunio’r bryniau o un rhyw, cyn gosod seiliau’r byd, o dragwyddoldeb ti wyt Dduw, parhei yr un o hyd. Mil o flynyddoedd iti sydd fel doe pan ddêl i ben neu wyliadwriaeth cyn […]


Wrth edrych, Iesu, ar dy groes

Wrth edrych, Iesu, ar dy groes, a meddwl dyfnder d’angau loes, pryd hyn ‘rwyf yn dibrisio’r byd a’r holl ogoniant sy ynddo i gyd. N’ad im ymddiried tra bwyf byw ond yn dy angau di, fy Nuw; dy boenau di a’th farwol glwy’ gaiff fod yn ymffrost imi mwy. Dyma lle’r ydoedd ar brynhawn rasusau […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015

Wrth orsedd y Jehofa mawr

Wrth orsedd y Jehofa mawr plyged trigolion byd i lawr; gwybydded pawb mai ef sy Dduw, yr hwn sy’n lladd a gwneud yn fyw. Â’i ddwyfol nerth, fe’n gwnaeth ei hun o bridd y ddaear ar ei lun; er in, fel defaid, grwydro’n ffôl, i’w gorlan ef a’n dug yn ôl. I’th byrth â diolch-gân […]


Yr Iesu a deyrnasa’n grwn

Yr Iesu a deyrnasa’n grwn o godiad haul hyd fachlud hwn; ei deyrnas â o fôr i fôr tra byddo llewyrch haul a lloer. Teyrnasoedd, pobloedd o bob iaith, i’w gariad rhoddant foliant maith; babanod ifainc, llon eu llef yn fore a’i clodforant ef. Lle y teyrnaso, bendith fydd; y caeth a naid o’i rwymau’n […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015