logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ti Deyrn y bydysawd, arlunydd y wawr

Ti Deyrn y bydysawd, arlunydd y wawr, rheolwr pelydrau, amserwr pob awr, ffynhonnell pob ynni, a bwyd ei barhad: tydi, er rhyfeddod, a’n ceraist fel Tad. Diolchwn am fywyd, a’r gallu bob pryd i wir werthfawrogi amrywiaeth dy fyd; er lles ein cyd-ddynion cysegrwn bob dawn, at wir adnabyddiaeth o’th natur nesawn. Egina’n talentau dan […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016

Tyrd, Ysbryd cariad mawr

Tyrd, Ysbryd cariad mawr, ymwêl â llwch y llawr, a gyr dy nerth yn dân i’m hysbryd egwan; Ddiddanydd, agosâ, fy nghalon i cryfha, a chynnau’r fflam yn hon, dy newydd drigfan. Dy gwmni, sanctaidd Un, dry nwydau meidrol ddyn yn llwch a lludw yn ei danllyd fflamau; a’th olau nerthol di fyddo f’arweinydd i […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016

Ymlaen, ymlaen, frenhinol Un

Ymlaen, ymlaen, frenhinol Un, “Hosanna!”, gwaedda’r dorf gytûn; d’anifail llwm ymlwybra ‘mlaen a phalmwydd dan ei draed ar daen. Ymlaen, ymlaen, frenhinol Frawd, yn wylaidd ar dy farwol rawd: i goncro pechod, codi’r graith, a thynnu colyn angau caeth. Ymlaen, ymlaen, frenhinol Grist, yr engyl oll sy’n syllu’n drist o’r nefoedd mewn rhyfeddod mawr: fe […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016