logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dewch, bobl Crist, cyfododd ef

Dewch, bobl Crist, cyfododd ef, Canwn fawl i’n brenin byw. Yn gôr fe seiniwn gân o glod I’n Harglwydd ni a’n Duw. Lan o’r ddaear las i’r nefoedd wen Codwn ein hedrychiad fry, Ei freichiau sydd yn estyn mas I’n cynorthwyo ni. Rhown glod! Rhown glod! Pob tafod, dewch, rhown glod ! Un llais, Un gân […]


Goleuni y Byd

Goleuni y Byd A greodd y wawr, A’r sêr sydd mewn oriel O’i wyrthiol waith mawr. Pob planed sy’n troi, drwy’i Air maent yn bod, I ddangos ei fawredd a chanu ei glod. Dewch, dewch bobl y byd Gwelwch oleuni ein Duw, Clod, clod, rhowch iddo Ef Credwch yn wir, credwch drwy ffydd Yn ei […]


I’w liniau cwympodd Brenin nef

I’w liniau cwympodd Brenin nef Tra’n dioddef gofid mawr, Goleuni’r byd yn chwysu gwaed Yn ddafnau ar y llawr. Pa erchyllterau welodd Ef Yn unig yn yr ardd: ‘O cymer Di y cwpan hwn’, Ond gwnaf d’ewyllys Di Ond gwnaf d’ewyllys Di. I wybod byddai ffrindiau’n ffoi A’r nef yn dawel iawn, Yng Nghalfarî roedd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 3, 2015

Mae gobaith sicr yn fy nghalon i

Mae gobaith sicr yn fy nghalon i, Sy’n rhoddi nerth i ddioddef dyddiau du; Wrth weled mymryn o d’ogoniant yma nawr amheuaeth ffodd o’m tu: Maddeuwyd im pob pechod cas; Mae gobaith nefoedd ynof fi! Fy mraint, fy ngalwad a’m llawenydd pur Yw gwneud d’ewyllys Di. Mae gen i obaith cryf sy’n ’sgafnu maich Yn […]


Mae’r byd yn canu cân y Tad

Mae’r byd yn canu cân y Tad; Mae’n galw’r haul i ddeffro’r wawr A mesur hyd y dydd, Nes machlud ddaw A’i liwiau rhudd. Ei fysedd wnaeth yr eira mân Ein byd sy’n troi o dan ei law; A rhyddid eryr fry, Fel chwerthin plant, o Dduw y dônt. Haleliwia! Cyfodwn oll a chanu’n awr: […]


O dyma fore

O! Dyma fore, llawen a disglair, A gobaith yn gwawrio’n Jerwsalem; Carreg symudwyd, gwag oedd y bedd, Wrth i angel gyhoeddi, ‘Cyfodwyd’! Gweithredwyd gynllun Duw Cariad yw, Croes ein Crist Aberth pur ei waed Cyflawnwyd drosom ni, Mae E’n fyw! Atgyfododd Crist o’r bedd! Mair oedd yn wylo, ‘Ble mae fy Arglwydd?’ Mewn tristwch y […]


Ysbryd Duw, tyrd chwytha arna’i nawr

Ysbryd Duw, tyrd chwytha arna’i nawr, Bywyd newydd rho i’m henaid i. Tyrd ac adnewydda ’nghalon friw Gyda phresenoldeb f’Arglwydd byw. Gwna i’th Air fywiogi mywyd i, Rho i’m ffydd i weld Dy law ar waith. Gwna fi’n danbaid dros dy burdeb llwyr, Ysbryd Duw tyrd, chwytha arna i. Ysbryd Duw, cartrefa ynof fi, Dangos […]