logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Braint, braint yw cael cymdeithas gyda’r saint

Braint, braint yw cael cymdeithas gyda’r saint, na welodd neb erioed ei maint: ni ddaw un haint byth iddynt hwy; y mae’r gymdeithas yma’n gref, ond yn y nef hi fydd yn fwy. Daeth drwy ein Iesu glân a’i farwol glwy’ fendithion fyrdd, daw eto fwy: mae ynddo faith, ddiderfyn stôr; ni gawsom rai defnynnau […]


O Arglwydd Dduw rhagluniaeth

O Arglwydd Dduw rhagluniaeth ac iachawdwriaeth dyn, tydi sy’n llywodraethu y byd a’r nef dy hun; yn wyneb pob caledi y sydd neu eto ddaw, dod gadarn gymorth imi i lechu yn dy law. Er cryfed ydyw’r gwyntoedd a chedyrn donnau’r môr, doethineb ydyw’r Llywydd, a’i enw’n gadarn Iôr: er gwaethaf dilyw pechod a llygredd […]


O Arglwydd, dysg im chwilio

O Arglwydd, dysg im chwilio i wirioneddau’r Gair nes dod o hyd i’r Ceidwad fu gynt ar liniau Mair; mae ef yn Dduw galluog, mae’n gadarn i iacháu; er cymaint yw fy llygredd mae’n ffynnon i’m glanhau. GRAWN-SYPPIAU CANAAN, 1805 (Caneuon Ffydd 333)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015

O gariad, O gariad anfeidrol ei faint

O gariad, O gariad anfeidrol ei faint, fod llwch mor annheilwng yn cael y fath fraint; cael heddwch cydwybod, a’i chlirio drwy’r gwaed, a chorff y farwolaeth, sef pechod, dan draed. Ni allai’r holl foroedd byth olchi fy mriw, na gwaed y creaduriaid er amled eu rhyw; ond gwaed y Meseia a’i gwella’n ddi-boen: rhyfeddol […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015