logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Codaf eglwys fyw

(Dynion) Codaf eglwys fyw, (Merched) Codaf eglwys fyw, (Dynion) A phwerau’r fall, (Merched) A phwerau’r fall, (Dynion) Ni threchant hi, (Merched) Ni threchant hi, (Pawb) Byth bythoedd. (Ailadrodd) Felly grymoedd y nefoedd uwchben, plygwch! A theyrnasoedd y ddaear is-law, plygwch! A chydnabod mai lesu, lesu, lesu sydd ben, sydd ben! I will build my church, […]


Credwn ni yn Nuw

Credwn ni yn Nuw – Dad nefol, Ef yw Crëwr popeth sydd, Ac yng Nghrist ei Fab – Waredwr, Aned i’n o forwyn bur. Credwn iddo farw’n aberth, Dwyn ein pechod ar y groes. Ond mae’n fyw, fe atgyfododd, Esgynodd i ddeheulaw’r Tad. Iesu, ti yw’r Crist, gwir Fab Duw, Iesu, ti yw’r Crist, gwir […]


Da yw Duw, dewch, canwch, codwch lef,

Da yw Duw, dewch, canwch, codwch lef, da yw Duw, fe ddathlwn ni: da yw Duw, ‘does dim amheuaeth gennym, da yw Duw, hyn wyddom ni. Llenwi â mawl mae fy nghalon i am fod Duw’n fy ngharu, rhaid i mi ddawnsio: ac yn ei galon mae lle i mi, rhedeg wnaf â’m breichiau ar […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015

Dad, dy gariad yn glir ddisgleiria

Dad, dy gariad yn glir ddisgleiria, trech na’r t’wyllwch, yn glir ddisgleiria; Iesu, goleuni’r byd, cofia ninnau, ti yw’r gwir a’n rhyddha o’n cadwynau: Grist, clyw ein cri, goleua ni. Air disglair Duw, dyro d’olau i Gymru heddiw, tyrd, Ysbryd Glân, rho dy dân i ni: rhed, afon gras, taena gariad ar draws y gwledydd, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015

Daethom i’th addoli

Daethom i’th addoli Ger dy fron yn awr; Dod i roi ein hunain Yn offrwm drwy ein mawl. Llifa o’n calonnau Gariad atat ti, Ti a’i planodd ynom, Abba, Dad. Par i ni yn awr Roi mwynhad i ti, Rhoi ein hunain wnawn yn llwyr, Abba, Dad. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, We are here to […]


Dewch i’w weld, dewch i’w weld

Dewch i’w weld, dewch i’w weld, Frenin cariad, dewch i’w weld; Gwelwch goron ddrain a gwisg o borffor drud. Creulon groes ar ei gefn, Gwawd y milwyr, gwaedd y llu, Unig ac heb gyfaill, dringa at y bryn. Addolwn wrth dy draed, Man cwrdd i lid a hedd, Ac fe olchir euog fyd gan gariad […]


Diolch am y groes

Diolch am Y Groes, Y pris a dalaist ti. Rhoddaist ti dy hun, Rhoi y cyfan, Werthfawr Iôr, (werthfawr Iôr). Ein pechodau ni A faddeuwyd, Cuddiwyd gan dy waed, fe’u hanghofiwyd, Diolch Iôr, (diolch Iôr). O, fe’th garaf di, Arglwydd caraf di, Alla’i fyth a deall Pam y ceri fi. Ti yw ‘nghyfan oll, Llanw […]


Dyma pam datguddiwyd y Crist

Dyma pam datguddiwyd y Crist, I ddifetha yn llwyr ymdrech yr Un Drwg. Crist o’n mewn ennillodd y dydd, Felly llawen yw’n cân o groeso i’w Deyrnas Ef. Mae’n goncwerwr dros bechod,    (Dynion) Haleliwia, mae’n goncwerwr.        (Merched) Dros farwolaeth, buddugol,           (Dynion) Haleliwia, buddugol                        (Merched) Dros afiechyd, fe ennillodd,          (Dynion) Haleliwia, fe ennillodd.                  (Merched) Crist deyrnasa drwy’r […]


Fy Nhad, dy gariad di

Fy Nhad, dy gariad di A dalodd drosof fi, I mi, yr euog un Fynd yn rhydd! Rhyfeddod nef, o’r fath gariad, Ei fywyd Ef drosof fi. O gariad rhad – marw yn fy lle, I mi gael byw, i mi gael byw. Yr Un ar groes o bren, Fab Duw, wrthodwyd. Ond o, ei […]


Galwad ddaw – clywch y gri

Galwad ddaw – clywch y gri, Rhoddwch fawl (i’n) Harglwydd ni; Lluoedd maith cenhedloedd byd, Dathlwch oll waith Duw i gyd. Telyn, salm ac utgorn clir – Datgan maent addoliad gwir; Coed a moroedd lawenhed Talodd Crist ein pris â’i waed. Cenwch gân fel un côr, D’wedwch bawb beth wnaeth ein Iôr; Seiniwch glod, molwch […]

  • Gwenda Jenkins,
  • May 22, 2015