logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Am air ein Duw rhown â’n holl fryd

Am air ein Duw rhown â’n holl fryd soniarus fawl drwy’r eang fyd; mae’n llusern bur i’n traed, heb goll, mae’n llewyrch ar ein llwybrau oll. Fe rydd i’n henaid esmwythâd, fe’n tywys tua’r nefol wlad gan ddangos cariad Un yn Dri ac ennyn cariad ynom ni. I’r cryf mae’n ymborth llawn o faeth, i’r […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015

Cyduned y nefolaidd gôr

Cyduned y nefolaidd gôr a llwythau dynol-ryw i ganu’n llon â llafar lef mai cariad ydyw Duw. Eglura gwirioneddau’i air, a’i drugareddau gwiw, ac angau Crist dros euog ddyn mai cariad ydyw Duw. Dwyn rhyfedd waith ei ras ymlaen mewn calon ddrwg ei lliw a ddengys drwy’r eglwysi oll mai cariad ydyw Duw. Derbyniad euog […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015

Dechreuwch, weision Duw

Dechreuwch, weision Duw, y gân ddiddarfod, bêr; datgenwch enw mawr a gwaith a gras anhraethol Nêr. Am ei ffyddlondeb mawr dyrchefwch glod i’r nen: yr hwn a roes addewid lawn yw’r hwn a’i dwg i ben. Mae gair ei ras mor gryf â’r gair a wnaeth y nef; y llais sy’n treiglo’r sêr di-rif roes […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015

Dewch, bawb sy’n caru enw’r Oen

Dewch, bawb sy’n caru enw’r Oen, deffrown alluoedd cân; i Frenin calon saint rhown fawl, ymgrymwn oll o’i flaen. Ein Brenin yw, a’n Ceidwad mawr, ein Priod mwyn, di-lyth; gogoniant hwn a leinw’r nef, ei deyrnas bery byth. Doed holl dafodau’r byd â chlod di-baid i’n Brenin glân, pan fyddo Crist yn destun mawl pwy […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015

Gras, O’r fath beraidd sain

Gras, O’r fath beraidd sain, i’m clust hyfrydlais yw: gwna hwn i’r nef ddatseinio byth, a’r ddaear oll a glyw. Gras gynt a drefnodd ffordd i gadw euog fyd; llaw gras a welir ymhob rhan o’r ddyfais hon i gyd. Gras nododd f’enw i Yn Llyfr Bywyd Duw; A gras a’m rhoddodd i i’r Oen, Fu […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 9, 2015

O am deimlo cariad Iesu

O am deimlo cariad Iesu yn ein tynnu at ei waith, cariad cryf i gadw’i eiriau nes in gyrraedd pen ein taith; cariad fwrio ofnau allan, drygau cedyrn rhagddo’n ffoi fel na allo gallu’r fagddu beri inni’n ôl i droi. Ennyn ynom flam angerddol o rywogaeth nefol dân fel y gallom ddweud yn ebrwydd – […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015

O Arglwydd gwêl dy was

O Arglwydd gwêl dy was A phrawf fy nghalon i; Os gweli ynof anwir ffordd, I’r uniawn tywys fi. Os oes rhyw bechod cudd Yn llechu dan fy mron, O! Chwilia ‘nghalon drwyddi oll, A llwyr sancteiddia hon Yn Isräeliad gwir Gwna fi, heb dwyll na brad; A’m prif hyfrydwch yn fy Nuw, A’m cân […]