logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rho im yr hedd na ŵyr y byd amdano

Rho im yr hedd na ŵyr y byd amdano, hedd, nefol hedd, a ddaeth drwy ddwyfol loes; pan fyddo’r don ar f’enaid gwan yn curo mae’n dawel gyda’r Iesu wrth y groes. O rho yr hedd na all y stormydd garwaf ei flino byth na chwerwi ei fwynhad pan fyddo’r enaid ar y noson dduaf […]


Ti fu gynt yn gwella’r cleifion

Ti fu gynt yn gwella’r cleifion, Feddyg da, dan eu pla trugarha wrth ddynion. Cofia deulu poen, O Iesu: ymhob loes golau’r groes arnynt fo’n tywynnu. Llaw a deall dyn perffeithia, er iachâd a rhyddhad, Nefol Dad, i dyrfa. Rho dy nodded, rho dy gwmni nos a dydd i’r rhai sydd ar y gwan yn […]


Yn wastad gyda thi

Yn wastad gyda thi dymunwn fod, fy Nuw, yn rhodio gyda thi ‘mhob man ac yn dy gwmni’n byw. Y bore gyda thi pan ddychwel gofal byd; gad imi ddechrau gwaith pob dydd yng ngwawr dy ŵyneb-pryd. Dymunwn yn y dorf fod gyda thi’n barhaus: yn sŵn y ddaear rhof fy mryd ar wrando’r hyfryd […]


Yr Arglwydd a feddwl amdanaf

Yr Arglwydd a feddwl amdanaf, a dyna fy nefoedd am byth; yng nghysgod yr orsedd gadarnaf mae’n ddigon i’r gwannaf gael nyth; cyn duo o’r cwmwl tymhestlog ei adain sy’n cuddio fy mhen; caf noddfa’n ei fynwes drugarog pan siglo colofnau y nen. Fy Arglwydd sy’n gwisgo y lili, mae’n cofio aderyn y to; cyn […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 29, 2015

Ysbryd graslon, rho i mi

Ysbryd graslon, rho i mi fod yn raslon fel tydi; dysg im siarad yn dy iaith, boed dy ddelw ar fy ngwaith; gwna i holl addfwynder f’oes ddweud wrth eraill werth y groes. Ysbryd geirwir, rho i mi fod yn eirwir fel tydi; trwy’r ddoethineb oddi fry gwna fi’n dirion ac yn gry’; gwna fi’n […]