O Arglwydd Dduw ein tadau, ein craig a’n tŵr wyt ti: O gogonedda eto dy enw ynom ni; ni cheisiwn fwy anrhydedd na rhodio’n llwybrau’r groes gan fyw i ddangos Iesu a gwasanaethu’n hoes. Nid oes i ni offeiriad ond Iesu Grist ei hun nac ordeiniadau eraill ond geiriau Mab y Dyn: i ryddid pur […]
O Dduw a Llywydd oesau’r llawr, Preswylydd tragwyddoldeb mawr, ein ffordd a dreiglwn arnat ti: y flwyddyn hon, O arwain ni. Mae yn dy fendith di bob pryd ddigon ar gyfer eisiau’r byd; drwy’r niwl a’r haul, drwy’r tân a’r don, bendithia ni y flwyddyn hon. Na ad, O Dduw, i droeon oes wneud inni […]
O Iesu, maddau fod y drws ynghau a thithau’n curo, curo dan dristáu: fy nghalon ddrwg a roddodd iti glwyf, gan g’wilydd ŵyneb methu agor ‘rwyf. Ti biau’r tŷ; dy eiddo yw, mi wn; ond calon falch sydd am feddiannu hwn: mae’n cadw’i Harglwydd o dan oerni’r ne’, gelynion i ti sy’n y tŷ’n cael […]
O tyred i’n hiacháu, garedig Ysbryd; tydi sy’n esmwytháu blinderau bywyd: er dyfned yw y loes, er trymed yw y groes, dwg ni bob dydd o’n hoes yn nes i’r gwynfyd. O tyred i fywhau y rhai drylliedig, tydi sy’n cadarnhau y gorsen ysig; pan fyddo’r storom gref yn llanw’r byd a’r nef, dy air […]
Orchfygwr angau, henffych well! Pan ddrylliaist byrth y bedd ar ofnau dynion torrodd gwawr, anadlodd awel hedd. Gan iti ennill mwy na’r byd yn rhodd i’th annwyl rai, ym mhebyll Seion pâr yn awr i filoedd lawenhau. Rho heddiw i rai ofnus, hedd; y llwythog esmwythâ; o garchar pechod tyrfa fawr, i glod dy ras, […]
Os caf yr Iesu’n rhan o dan bob croes, a rhodio yn ei hedd hyd ddiwedd oes, anghofiaf boenau’r daith, pob gwaith fydd yn fwynhad; caf brofi’r hedd sydd fry yn nhŷ fy Nhad. Ond cael yr Iesu’n rhan daw’r cyfan im; pob bendith ynddo gaf, ni chollaf ddim: ni raid im fynd ar ôl […]
Pan fwy’n cerdded drwy’r cysgodion, pwyso ar dy air a wnaf, ac er gwaethaf fy amheuon buddugoliaeth gyflawn gaf. Dim ond imi dawel aros golau geir ar bethau cudd; melys fydd trallodion hirnos pan geir arnynt olau’r dydd. Ac os egwan yw fy llygad, digon i mi gofio hyn: hollalluog yw dy gariad, fe wna […]
Pob peth, ymhell ac agos, sy’n dangos Duw i’r byd, ei enw sydd yn aros ar waith ei law i gyd; efe a wnaeth y seren yn ddisglair yn y nen, efe a wnaeth y ddeilen yn wyrddlas ar y pren. Ar ei drugareddau yr ydym oll yn byw; gan hynny dewch a llawenhewch, cans […]
Pwy sy’n dod i Salem dref? Iesu’n Llywydd: taenwn ar ei lwybrau ef gangau’r palmwydd; rhoddwn iddo barch a chlod mewn Hosanna; atom ni mae heddiw’n dod Haleliwia! Pwy sy’n dod drwy byrth y bedd yn orchfygwr? Iesu Grist, Tywysog hedd, ein Gwaredwr: mae ei fryd ar wella’r byd o’i ddoluriau; rhoddwn iddo oll ynghyd […]
Pwy sy’n dwyn y Brenin adref? Pwy sy’n caru gweld ei wedd? Pwy sy’n parchu deddfau’r goron ac yn dilyn llwybrau hedd? Hwn fydd mawr dros y llawr, dewch i’w hebrwng ef yn awr. Pwy sy’n taenu cangau’r palmwydd ar y ffordd o dan ei draed? Ble mae mintai y cerddorion i glodfori gwerth ei […]