logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ai gwir y gair fod elw i mi

Ai gwir y gair fod elw i mi Yn aberth Crist a’i werthfawr loes? A gollodd ef ei waed yn lli Dros un a’i gyrrodd Ef i’w groes? Ei gariad tra rhyfeddol yw, Fy Nuw yn marw i mi gael byw. Mor rhyfedd fu rhoi Duw mewn bedd, Pwy all amgyffred byth ei ffyrdd? Y […]


Hwn, hwn ydyw’r Duw folwn ni

Hwn, hwn ydyw’r Duw folwn ni, ein Ffrind digyfnewid, di-lyth; ei gariad, lawn cymaint â’i nerth, heb fesur, heb ddiwedd ŷnt byth. Yr Alffa a’r Omega yw Crist, ei Ysbryd a’n dwg draw i dre’; rhown glod am ei ras hyd yn hyn, a’n ffydd am a ddaw ynddo fe. JOSEPH HART, 1712-68 cyf. E. […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 28, 2016

I Dduw bo’r gogoniant (Cyfieithiad Caneuon Ffydd)

I Dduw bo’r gogoniant, fe wnaeth bethau mawr, rhoi’i Fab o’i fawr gariad dros holl deulu’r llawr, rhoi’i einioes yn Iawn dros ein pechod a wnâi, gan agor drws bywyd i bawb er eu bai. Clod i Dduw! Clod i Dduw! Clywed daear ei lef! Clod i Dduw! Clod i Dduw! Llawenhaed tyrfa gref! O […]


I Dduw bo’r gogoniant! (Cyfieithiad Grym Mawl)

I Dduw bo’r gogoniant! Mawr bethau a wnaeth! Cans carodd a rhoddodd ei Fab dros y caeth; Rhoes yntau ei fywyd yn iawn dros ein bai, Agorodd borth Bywyd i bawb yn ddi-lai. Clod i Dduw! Clod i Dduw! Aed trwy’r ddaear ei lef! Clod i Dduw! Clod i Dduw! Llawenhaed tyrfa gref! O! dewch […]


O Ysbryd byw, dylifa drwom

O Ysbryd byw, dylifa drwom, bywha dy waith â grym y groes. O Ysbryd byw, tyrd, gweithia ynom, cymhwysa ni i her ein hoes. O ddwyfol wynt, tyrd, plyg a thrin ni nes gweld ein hangen ger dy fron; ac achub ni â’th hael dosturi, bywha, cryfha; clyw’r weddi hon. O gariad Crist, chwyth arnom […]