logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ar hyd y ffordd i Jericho (Y Samariad Trugarog)

Samariad Trugarog, Luc 10: 25-37 Ar hyd y ffordd i Jericho Disgwyliai lladron cas Am berson unig ar ei daith Heb ots beth oedd ei dras. Gadawyd ef a golwg gwael I farw wrth y berth, Heb unrhyw un i drin ei friw Ac adfer peth o’i nerth. Aeth swyddog Teml heibio’r fan Aeth ar […]


Ar ôl atgyfodiad Iesu

Ar ôl atgyfodiad Iesu, Treuliodd amser yn y byd Gyda’i ffrindiau a’u haddysgu Am y cariad mwyaf drud. Soniodd wrthynt bod ‘na helfa Ym mysg dynion gwlad a thref, A bod Duw am rannu iddynt Holl fendithion mwya’r nef. Cyn i’r Ysbryd Glân ymddangos Megis cyffro’r nefol dân I rhoi grym yr argyhoeddiad Ac eneiniad […]


Arglwydd Iesu, bu hir ddisgwyl

Arglwydd Iesu, bu hir ddisgwyl Am dy enedigaeth di, I ddwyn golau i fyd tywyll A thrugaredd Duw i ni. Ti yw nerth a gobaith pobloedd Sydd yn wan a llwm eu gwedd, Ti sy’n rhannu’r fendith nefol, Ti wyt frenin gras a hedd. Llywodraetha drwy dy Ysbryd Ein heneidiau gwamal ffôl, Helpa ni i […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 19, 2016

Arglwydd Iesu, rhoist wahoddiad

Emyn ar gyfer Sul ‘Nôl i’r Eglwys’. Arglwydd Iesu, rhoist wahoddiad I drigolion byd i’th dŷ, Mae dy fwrdd yn llawn a helaeth O’r bendithion mwya sy’. Cofiwn iti wadd cyfeillion, A holl deithwyr ffyrdd y byd, I gyd-rannu o’th ddarpariaeth Ac i geisio byw ynghyd. Arglwydd Iesu, wele ninnau’n Derbyn dy wahoddiad di, Diolch […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016

Drwy gyfnodau o dywyllwch

Drwy gyfnodau o dywyllwch Drwy y dyddiau trist  eu gwedd, Rhoddaist nerth i’r rhai lluddedig I’th glodfori di mewn hedd. Rhoist i’n olau a llawenydd Yn dy gwmni cilia ofn; Iesu, cedwaist dy addewid, Rhennaist ras o’th galon ddofn. Profwyd o gynhaliaeth natur Gwelwyd harddwch yn y wlad, Ti a luniodd y tymhorau Molwn Di, […]


Iesu ti yw drws pob gobaith (Ioan 10)

Ioan 10 Iesu ti yw drws pob gobaith, Ti yw’r ffordd ymlaen at Dduw, Drwy dy ddilyn, gwyddom ninnau Er ein beiau, y cawn fyw. Fel y bu i’r defaid ddilyn Ôl dy droed, dros lwybrau maith, Credwn mai diogel fyddwn Er peryglon mwya’n taith. Ti yw bugail mawr y defaid, Sydd o hyd yn […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016

Iesu’r athro clyw ein diolch

Diolch am yr Ysgol Sul Iesu’r athro clyw ein diolch Am bob gwers a gawsom ni Yn ein helpu ni i ddysgu Mor arbennig ydwyt ti. Yn yr Ysgol Sul y clywsom Am dy air, dy ddysg a’th ddawn, A bod modd i ninnau ddathlu Bod yn rhan o’th deulu llawn. Helpa ni i weld […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016

O Waredwr mawr y ddaear

Emyn Adfent O Waredwr mawr y ddaear Ganwyd gynt ym Methlem dref; Daw’r cenhedloedd oll i’th ganmol, Mab i Dduw sy’n blentyn Nef. Nid ewyllys dyn fu’th hanes Ond yn rodd i ni drwy ras, Cariad dwyfol yw dy anian Sanctaidd yw dy nefol dras. Dwyfol blentyn, tyrd i’n canol Fel y gallom weled Duw […]


Ti, Arglwydd, fu’n dywysydd

Ti, Arglwydd, fu’n dywysydd ar hyd blynyddoedd oes, yn gwmni ac yn gysur, a’th ysgwydd dan ein croes: diolchwn am bob bendith fu’n gymorth ar y daith, anoga ni o’r newydd i aros yn dy waith. Wrth gofio y gorffennol a datblygiadau dyn, rhyfeloedd a rhyferthwy y dyddiau llwm a blin, clodforwn di, O Arglwydd, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 19, 2016