logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Diolch i ti, yr hollalluog Dduw

Diolch i ti, yr hollalluog Dduw, am yr Efengyl sanctaidd. Haleliwia! Amen. Pan oeddem ni mewn carchar tywyll, du rhoist in oleuni nefol. Haleliwia! Amen. O aed, O aed yr hyfryd wawr ar led, goleued ddaear lydan! Haleliwia! Amen. Y SALMYDD CYMREIG, 1840, priodolir i DAVID CHARLES, 1762-1834 (Caneuon Ffydd 49)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015

Llais hyfryd rhad ras sy’n gweiddi, “Dihangfa!”

Llais hyfryd rhad ras sy’n gweiddi, “Dihangfa!” Yng nghlwyfau Mab Duw, bechadur, mae noddfa: i olchi aflendid a phechod yn hollol fe redodd ei waed yn ffrydiau iachusol. Haleliwia i’r Oen bwrcasodd ein pardwn, ‘n ôl croesi’r Iorddonen drachefn ni a’i molwn. Ar angau ac uffern cadd lawn fuddugoliaeth, ysbeiliodd holl allu’r tywyllwch ar unwaith: […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

Mae ffrydiau ‘ngorfoledd yn tarddu

Mae ffrydiau ‘ngorfoledd yn tarddu o ddisglair orseddfainc y ne’, ac yno’r esgynnodd fy Iesu ac yno yr eiriol efe: y gwaed a fodlonodd gyfiawnder, daenellwyd ar orsedd ein Duw, sydd yno yn beraidd yn erfyn i ni, y troseddwyr, gael byw. Cawn esgyn o’r dyrys anialwch i’r beraidd baradwys i fyw, ein henaid lluddedig […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015

O Iesu mawr, rho d’anian bur

O Iesu mawr, rho d’anian bur i eiddil gwan mewn anial dir, i’w nerthu drwy’r holl rwystrau sy ar ddyrys daith i’r Ganaan fry. Pob gras sydd yn yr Eglwys fawr, fry yn y nef neu ar y llawr, caf feddu’r oll, eu meddu’n un, wrth feddu d’anian di dy hun. Mi lyna’n dawel wrth […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015

O na chawn i olwg hyfryd

O na chawn i olwg hyfryd ar ei wedd, Dywysog bywyd; tegwch byd, a’i holl bleserau, yn ei ŵydd a lwyr ddiflannai. Melys odiaeth yw ei heddwch, anghymharol ei brydferthwch; ynddo’n rhyfedd cydlewyrcha dwyfol fawredd a mwyneidd-dra. Uchelderau mawr ei Dduwdod a dyfnderoedd ei ufudd-dod sy’n creu synnu fyth ar synnu yn nhrigolion gwlad goleuni. […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015

Rhagluniaeth fawr y nef

Rhagluniaeth fawr y nef, mor rhyfedd yw esboniad helaeth hon o arfaeth Duw: mae’n gwylio llwch y llawr, mae’n trefnu lluoedd nef, cyflawna’r cwbwl oll o’i gyngor ef. Llywodraeth faith y byd sydd yn ei llaw, mae’n tynnu yma i lawr, yn codi draw: trwy bob helyntoedd blin, terfysgoedd o bob rhyw, dyrchafu’n gyson mae […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015

Y Bugail mwyn o’r nef a ddaeth i lawr

Y Bugail mwyn o’r nef a ddaeth i lawr i geisio’i braidd drwy’r erchyll anial mawr; ei fywyd roes yn aberth yn eu lle, a’u crwydrad hwy ddialwyd arno fe. O’m crwydrad o baradwys daeth i’m hôl, yn dirion iawn fe’m dygodd yn ei gôl; ‘does neb a ŵyr ond ef, y Bugail mawr, pa […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015