logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mor beraidd i’r credadun gwan

Mor beraidd i’r credadun gwan yw hyfryd enw Crist: mae’n llaesu’i boen, yn gwella’i glwy’, yn lladd ei ofnau trist. I’r ysbryd clwyfus rhydd iachâd, hedd i’r drallodus fron; mae’n fanna i’r newynog ddyn, i’r blin, gorffwysfa lon. Hoff enw! fy ymguddfa mwyn fy nghraig a’m tarian yw; trysorfa ddiball yw o ras i mi […]


O Arglwydd da, argraffa

O Arglwydd da, argraffa dy wirioneddau gwiw yn rymus ar fy meddwl i aros tra bwyf byw; mwy parchus boed dy ddeddfau, mwy annwyl nag erioed, yn gysur bônt i’m calon, yn llusern wiw i’m troed. Myfyrdod am Gyfryngwr a phethau dwyfol, drud fo’n llanw ‘nghalon wamal yn felys iawn o hyd, a bydded prawf […]


Tydi sy deilwng oll o’m cân

Tydi sy deilwng oll o’m cân, fy Nghrëwr mawr a’m Duw; dy ddoniau di o’m hamgylch maent bob awr yr wyf yn byw. Mi glywa’r haul a’r lloer a’r sêr yn datgan dwyfol glod; tywynnu’n ddisglair yr wyt ti drwy bopeth sydd yn bod. O na foed tafod dan y rhod yn ddistaw am dy […]