Arglwydd mawr y cyfrinachau, ti yw saer terfynau’r rhod, artist cain yr holl ddirgelion a chynlluniwr ein holl fod: creaist fywyd o ronynnau a rhoi chwyldro yn yr had; rhannu, Iôr, wnest ti o’th stordy amhrisiadwy olud rhad. Maddau inni yr arbrofion sy’n ymyrryd â dy fyd; mynnwn ddifa yr holl wyrthiau, ceisiwn chwalu pob […]