logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gwaith hyfryd iawn a melys yw

Gwaith hyfryd iawn a melys yw moliannu d’enw di, O Dduw; sôn am dy gariad fore glas, a’r nos am wirioneddau gras. Melys yw dydd y Saboth llon, na flined gofal byd fy mron, ond boed fy nghalon i mewn hwyl fel telyn Dafydd ar yr ŵyl. Yn Nuw fy nghalon lawenha, bendithio’i waith a’i […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015

Mae arnaf eisiau sêl

Mae arnaf eisiau sêl i’m cymell at dy waith, ac nid rhag ofn y gosb a ddêl nac am y wobor chwaith, ond gwir ddymuniad llawn dyrchafu cyfiawn glod am iti wrthyf drugarhau ac edrych arna’i erioed. CHARLES WESLEY 1707- 91 efel. DAFYDD JONES. 1711-77 (Caneuon Ffydd 752)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015

Mae Duw yn llond pob lle

Mae Duw yn llond pob lle, presennol ymhob man; y nesaf yw efe o bawb at enaid gwan; wrth law o hyd i wrando cri: “Nesáu at Dduw sy dda i mi.” Yr Arglwydd sydd yr un er maint derfysga’r byd; er anwadalwch dyn yr un yw ef o hyd; y graig ni syfl ym […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 9, 2015

O Arglwydd, galw eto

O Arglwydd, galw eto fyrddiynau ar dy ôl, a dryllia’r holl gadwynau sy’n dal eneidiau’n ôl; a galw hwynt o’r dwyrain, gorllewin, gogledd, de, i’th Eglwys yn ddiatal – mae digon eto o le. DAFYDD JONES, 1711-77 (Caneuon Ffydd 249)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015

Wele, cawsom y Meseia

Wele, cawsom y Meseia, cyfaill gwerthfawroca’ ‘rioed; darfu i Moses a’r proffwydi ddweud amdano cyn ei ddod: Iesu yw, gwir Fab Duw, Ffrind a Phrynwr dynol-ryw. Hwn yw’r Oen, ar ben Calfaria aeth i’r lladdfa yn ein lle, swm ein dyled fawr a dalodd ac fe groesodd filiau’r ne’; trwy ei waed, inni caed bythol […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 19, 2015

Wrth orsedd y Jehofa mawr

Wrth orsedd y Jehofa mawr plyged trigolion byd i lawr; gwybydded pawb mai ef sy Dduw, yr hwn sy’n lladd a gwneud yn fyw. Â’i ddwyfol nerth, fe’n gwnaeth ei hun o bridd y ddaear ar ei lun; er in, fel defaid, grwydro’n ffôl, i’w gorlan ef a’n dug yn ôl. I’th byrth â diolch-gân […]


Yr Iesu a deyrnasa’n grwn

Yr Iesu a deyrnasa’n grwn o godiad haul hyd fachlud hwn; ei deyrnas â o fôr i fôr tra byddo llewyrch haul a lloer. Teyrnasoedd, pobloedd o bob iaith, i’w gariad rhoddant foliant maith; babanod ifainc, llon eu llef yn fore a’i clodforant ef. Lle y teyrnaso, bendith fydd; y caeth a naid o’i rwymau’n […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015