logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cyd-ddiolchwn, Arglwydd tirion

Cyd-ddiolchwn, Arglwydd tirion, am yr ysguboriau llawn: ti sy’n nerthu dwylo dynion a rhoi grym i gasglu’r grawn; am i ti ein cofio beunydd a chyflawni eto’r wyrth, yma canwn am y cynnydd a rhown ddiolch yn y pyrth. Byth ni phaid dy drugareddau, a’th ddaioni sydd yr un; pwy all gofio dy holl ddoniau […]


Pan rwystrir ni gan bethau’r llawr

Pan rwystrir ni gan bethau’r llawr i weled ei ogoniant mawr, gwyn fyd y pur o galon sydd yn gweled Duw drwy lygaid ffydd. Pan welir dynion balch eu bryd yn ceisio ennill yr holl fyd, gwyn fyd yr addfwyn, meddai ef, sy’n etifeddion daer a nef. Pan welir chwalu teulu’r Tad gan ryfel gyda’i […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 28, 2016

Ti, Arglwydd, a greodd y bydoedd

Ti, Arglwydd, a greodd y bydoedd, a threfnaist i’r wawrddydd ei lle, dy allu a daenodd y nefoedd a’th gerbyd yw cwmwl y ne’; gosodaist sylfeini y ddaear a therfyn i donnau y môr, mor fawr yw gweithredoedd digymar a rhyfedd ddoethineb yr Iôr. Ti, Arglwydd, sy’n cynnal y cread a newydd yw’r fendith a […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 28, 2016