logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Am gael cynhaeaf yn ei bryd

Am gael cynhaeaf yn ei bryd dyrchafwn foliant byw; fe gyfoethogwyd meysydd byd gan fendith afon Duw. O ffynnon glir haelioni’r nef y tardd yn hardd a byw, ac am ei fawr ddaioni ef y dywed afon Duw. O hon yr yf gronynnau’r llawr a’r egin o bob rhyw; nid ydyw gemog wlith y wawr […]


Duw’n darpar o hyd at raid dynol-ryw

Duw’n darpar o hyd at raid dynol-ryw yw’n cysur i gyd a’n cymorth i fyw; pan sycho ffynhonnau cysuron y llawr ei heddwch fel afon a lifa bob awr. Er trymed ein baich, ni gofiwn o hyd mor gadarn ei fraich, mor dyner ei fryd; y cof am Galfaria ac aberth y groes drwy ras […]


Mae llais y gwyliwr oddi draw

Mae llais y gwyliwr oddi draw yn dweud bod bore llon gerllaw: cymylau’r nos sy’n cilio ‘mhell o flaen goleuni dyddiau gwell, a daw teyrnasoedd daear lawr i gyd yn eiddo’n Harglwydd mawr. Y dwyrain a’r gorllewin sydd o’u rhwymau blin yn dod yn rhydd, ac unir de a gogledd mwy drwy ryfedd rinwedd marwol […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015

Mae’r oesau’n disgyn draw

Mae’r oesau’n disgyn draw fel ton ar don i’r môr, ac oes ar oes a ddaw wrth drefniad doeth yr Iôr; ond syfled oesau, cilied dyn, mae Iesu Grist yn para’r un. Mae Eglwys Dduw yn gref yng nghryfder Iesu mawr er syrthio sêr y nef fel ffigys ir i’r llawr; saif hon yn deg […]


Molwn di, O Arglwydd, Iôr hollalluog

Molwn di, O Arglwydd, Iôr hollalluog, dengys bryniau oesol in dy gadernid mawr; yn dy ddawn i faddau, tyner a thrugarog, codi o’r dyfnder wnei drueiniaid llawr. Gyfiawn, sanctaidd Arglwydd, ger bron dy burdeb, gwylaidd yw y nefoedd yn ei sancteiddiaf fri; golau claer dy ŵyneb loywa dragwyddoldeb, mola’r holl nefoedd dy ogoniant di. Cofiwn, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015

Pan guddio’r nos y dydd

Pan guddio’r nos y dydd, A’r gân yn troi yn gri, Cynlluniau dyn yn drysu ffydd, O! Arglwydd cofia fi. Pan ollwng cymyl prudd Eu dafnau oer yn lli, Pan ddeffry’r gwynt a’i nerthoedd cudd O! Arglwydd cofia fi. Ti gofiaist waelion byd, Maddeuaist fyrdd di-ri’; Dy ras sy’n fôr heb drai o hyd; O! […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 22, 2015

Pwy yw hwn? Mae’r gwynt a’r moroedd

Pwy yw hwn? Mae’r gwynt a’r moroedd Yn adnabod tôn ei lais, A rhyferthwy’r blin dymhestloedd Sy’n tawelu ar ei gais. O! llefared Iesu eto I dawelu ofnau’r fron; Doed tangnefedd llawn i drigo Yn y galon euog hon. Pwy yw hwn? Yr addfwyn tyner, Cyfaill yr anghenus gwael; Ni bu neb dan faich gorthrymder […]

  • Gwenda Jenkins,
  • November 10, 2015