Fel brefa’r hydd am y dyfroedd byw, Sychedu mae f’enaid am fy Nuw. ‘Dwi d’angen di, fy Arglwydd a’m Rhi, ‘Dwi d’angen di, ‘Dwi d’angen di. Mwy na dim yn y byd, Na’r anadl ynof sydd, (Na) churiad y galon hon – Mwy na’r rhain i gyd. O! Dduw mewn dyddiau ddaw Fe fyddaf fi […]
Fel yr hydd a fref am ddyfroedd, felly mae fy enaid i yn dyheu am fod yn agos er mwyn profi o’th gwmni di. Ti dy hun yw fy nerth a’m tŵr, a chyda thi, ‘rwyf finnau’n siwr mai tydi yw serch fy nghalon, ac O Dduw, addolaf di. Gwell wyt ti nag aur ac […]
Fy Iesu, fy Arglwydd, ‘Dwi d’angen di yn fy mywyd i. Does undyn yn debyg; Hiraethu wnaf am dy gariad di. O! Iesu, O! Iesu, ‘Does cariad tebyg i dy gariad di. O! Iesu, fy Iesu, Derbyn yn rhodd fy nghalon i – Fe’i rhoddaf i ti. Rwy’n chwilio, rwy’n ceisio, Gwna ynof beth a […]
Gad in fod yn olau clir i’r cenhedloedd, yn olau clir i holl bobloedd daear lawr nes y gwelo’r byd ogoniant d’enw mawr, O llewyrcha drwom ni. Gad in ddod â gobaith d’Air i’r cenhedloedd, y Gair sy’n fywyd i bobloedd daear lawr, nes y gwypo’r byd fod achubiaeth ynot ti, Gair maddeuant, drwom ni. […]
Gwêl yma o’th flaen di fy nghalon yn glau, Fy Nuw, a wnei di dosturio, wnei di drugarhau? Golcha ‘mhechod du yn dy ddyfroedd pur, Ac mewn dydd o ras tyrd i’m llenwi i. Gyda chalon lân, Iôr, addolaf di, Gyda chalon lân, addolaf di. (Grym Mawl 2: 89) Trish Morgan: Lord, My heart before […]
Iesu, mae d’enw uwch pob enw sydd, Nerthol Dduw, T’wysog Hedd, Gwaredwr. Iesu, fe’th garaf di yn fwy bob dydd, F’Arglwydd i, ‘Rwyf am d’adnabod di yn well. Gwêl yma fôr o fawl – Cwyd o ddwfn fy nghalon, tyrr fel ton ar don Wrth d’addoli Di. Carwr f’enaid i, Crëwr y cyfanfyd, Ti a […]
Mae calon Duw’n llawn gofid Mae t’wyllwch drwy y wlad. Mae’i blant yn esgeuluso Y gwaith wnaed gan y Mab. Mae’r byd yn araf lithro nawr At ddibyn colledigaeth fawr. A ddaw ‘na neb i son am gariad Duw? Rwy’n barod, rwy’n barod. Wele fi, o anfon fi. Af allan, af allan, Gyda’r neges drosot […]
Mae Ysbryd y tragwyddol Dduw’n gorwedd arnoch, Daeth i’ch eneinio oll i ddwyn y newydd da. Mae Ysbryd y tragwyddol Dduw’n gorwedd arnoch, Daeth i’ch eneinio oll i ddwyn y newydd da. Fe’ch anfonodd at y tlodion, (Fe ddaeth y dydd,) I gysguro’r gwan o galon, (Fe ddaeth yr awr,) I ryddhau y carcharorion, (Fe […]
Nid gosgordd na brenhinol rwysg Gaed i Frenin Nef, Na gwylnos weddi dan y sêr Ar ei farw Ef; Na baner bri ar hanner mast Er gwarth y Groes, Na blodau’n perarogi’r ffordd Arweiniai at Ei fedd ar y Pasg cyntaf un. Dim torchau’n deyrnged ar y llawr – Gwatwar milwyr gaed, A dim ond […]
‘Rwyt fel y graig yn sefyll byth, Ffyddlon wyt ti; ‘Rwyt Ti’n ddoethach a mil harddach Na phawb a phopeth sy’. Rymus un, yn ofni dim, Gwir a chyfiawn yw dy ffyrdd, Fab Duw; Ond rwyt mor isel, rhoist dy fywyd di, Er mwyn i ni gael byw. Wrth droi fy wyneb atat Ti O! […]