logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd

Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, Arglwydd mawr y byd Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, pawb a’i mawl ynghyd. Heb ddechreuad iddo, y tragwyddol Fod, ef sy’n llywodraethu popeth is y rhod. Cariad, nerth, rhyfeddod dry o’i amgylch ef, molwch yn dragwyddol Arglwydd daer a nef. C. G. Cairns cyf. E. Cefni Jones, 1871-1972 (Caneuon Ffydd 987)  

  • Gwenda Jenkins,
  • April 28, 2015