logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ffyddlon un, digyfnewid

Ffyddlon un, digyfnewid Oesol Un, ti yw craig fy hedd. Arnat ti rwy’n dibynnu, Galwaf arnat ti drachefn a thrachefn, Galwaf arnat ti drachefn a thrachefn. Ti yw fy nghraig pan ddaw trafferthion, Fe’m deli’n dynn pan lithraf fi; Gydol y storm Dy gariad yw’r angor, Mae ‘ngobaith ynot ti yn llwyr. (Grym Mawl 2: […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 10, 2015

Iesu, mawr yw dy ras

Iesu, mawr yw dy ras a mawr dy gariad ataf fi, Gwn am fy holl feiau’i gyd, ond parod wyt i faddau im. Hon yw fy nghân o fawl i ti; Clod i’r Duw byw a’i holl roddion drud. Ti wnaeth gyffwrdd y galon hon Waredwr ffyddlon. Iesu, dal fi yn dynn a gwared fi […]


Mwy na’r awyr iach

Mwy na’r awyr iach – Rwyf d’angen di nawr; Mwy na’r bwydydd i gyd Ym meddwl y tlawd; A mwy nag angen un gair Am dafod i’w ddweud; Ie, mwy nag angen un gân Am lais i’w chreu. Mwy na all gair esbonio’n glir, Mwy na all cân arddangos yn wir; Rwyf d’angen di yn […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 22, 2015

Pura ‘nghalon i,

Pura ‘nghalon i, Gad im fod fel aur ac arian gwerthfawr; Pura ‘nghalon i, Gad im fod fel aur, aur coeth. O Burwr dân, Tyrd, gwna fi yn lân, Tyrd, gwna fi’n sanctaidd Sanctaidd a phur i Ti Iôr. Dwi’n dewis bod yn Sanctaidd Wedi fy rhoi i Ti, fy Meistr; Parod i ufuddhau. Pura […]