logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Deffro ‘nghalon, deffro ‘nghân

Deffro ‘nghalon, deffro ‘nghân i ddyrchafu clodydd pur yr Arglwydd glân, f’annwyl Iesu; uno wnaf â llu y nef â’m holl awydd i glodfori ei enw ef yn dragywydd. Crist yw ‘Mhrynwr, Crist yw ‘Mhen, a’m Hanwylyd, Crist yw f’etifeddiaeth wen, Crist yw ‘mywyd, Crist yw ‘ngogoneddus nef annherfynol: gwleddaf ar ei gariad ef yn […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015

Dilynaf fy Mugail drwy f’oes

Dilynaf fy Mugail drwy f’oes, er amarch a gw’radwydd y byd; a dygaf ei ddirmyg a’i groes, gan dynnu i’r nefoedd o hyd; mi rodiaf, drwy gymorth ei ras, y llwybyr a gerddodd efe; nid rhyfedd os gwawdir y gwas, cans gwawd gafodd Arglwydd y ne’. Nid oes arnaf g’wilydd o’i groes – ei groes […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015

Gofala Duw a Thad pob dawn

Gofala Duw a Thad pob dawn yn dyner iawn amdanom: mae’n tai yn llawn o’i roddion rhad, O boed ei gariad ynom. Y cynnar law a’r tyner wlith, diferant fendith unwedd; y ddaear, rhydd ei ffrwythau da, a’r haul, cyfranna’i rinwedd. Am ffrwythau hael y flwyddyn hon a’i mawrion drugareddau moliannwn enw Duw bob dydd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015

Mae Eglwys Dduw fel dinas wych

Mae Eglwys Dduw fel dinas wych yn deg i edrych arni: ei sail sydd berl odidog werth a’i mur o brydferth feini. Llawenydd yr holl ddaear hon yw Mynydd Seion sanctaidd; preswylfa annwyl Brenin nef yw Salem efengylaidd. Gwyn fyd y dinasyddion sydd yn rhodio’n rhydd ar hyd-ddi; y nefol fraint i minnau rho, O […]