Pennill 1 O boed i’n sylfaen fod Ar dy ogoniant Di Boed i dy eiriau oll Lenwi’r tŷ Iesu ein hangor ni Sail ein heneidiau ni Mae’n cariad ni i’w weld Er dy glod Corws Bydd fy nheulu a mi Bydd fy nheulu a mi Yn gwasanaethu Yn gwasanaethu Bydd fy nheulu a mi a […]
Cael bod yn dy gwmni, Cael eisedd i lawr, A phrofi dy gariad O’m cwmpas yn awr. Fy nyhead i, Fy Nhad, Yw bod gyda thi. Fy nyhead i, Fy Nhad, Yw bod gyda thi. A’m pen ar dy ddwyfron Heb gynnwrf na phoen; Pob eiliad yn werthfawr Yng nghwmni yr Oen. Caf oedi’n […]
Cân serch o’r nefoedd sy’n llenwi ein byd; Gobaith a ddaeth i’r cenhedloedd. Er y tywyllwch a welir bob dydd – Llewyrcha gwir oleuni Crist. Aeth dy efengyl drwy’r ddaear i gyd; Atseiniodd lawr drwy’r canrifoedd. Gwaed dy ferthyron wna d’eglwys yn gryf – Llewyrcha gwir oleuni Crist. Byw ry’m i ti; byddai marw yn […]
Cariad iesu feddiannodd fy nghalon; Cariad Iesu ennillodd fy mryd – Cariad Iesu feddiannodd fy nghalon; Cariad Iesu ennillodd fy mryd. Harddach na lliwiau, O! Dyfnach na geiriau, O! Cryfach na theimladau, O! C’nesach yw na thanau, O! Dewch i ddathlu gyda mi Rhannu’r wefr o ddilyn Iesu. Dyma be’ di teulu’r ffydd! Ennillodd fy […]
Cariad llethol Duw; Dyfnach na’r moroedd, Uwch yw na’r nefoedd. Fythol, fywiol Dduw, Ti a’m hachubodd i. Baich fy mhechod cas ‘Roed arno Ef, Fab Duw o’r nef; Talu ‘nyled drom – Mor fawr yw’th gariad di. Cariad mor ddrud yn rhodd i’n byd, Gras a thrugaredd mor rhad. Arglwydd, dyma’r gwir – Rwyf yn […]
Cariad, pur fel yr eira gwyn; Cariad, wyla dros g’wilydd dyn; Cariad, sy’n talu ‘nyled i; O Iesu, cariad. Cariad, rydd hedd i’m calon i; Cariad, leinw y gwacter du; Cariad, ddengys sancteiddrwydd im; O Iesu, cariad. Cariad, dardda o orsedd Duw; Cariad, lifa drwy hanes byw; Cariad, ffynnon y bywyd yw; O Iesu, […]
Cenhedloedd y ddaear i gyd, Sy’n mynd i gael gwrando ar ein cân. Cenhedloedd y ddaear i gyd, Sy’n mynd i gael clywed newydd da; A phobl ddaw i gredu yn yr Iesu glân. Iesu ein Brenin, Ry’m am dy ddilyn Ymlaen yn dy fyddin Dan faner yr Oen. Caed buddugoliaeth, Ac mae gweledigaeth; Dyma’n […]
Cerddodd lle cerddaf fi, Safodd lle safaf fi, Teimiodd fel teimlaf fi, Fe glyw fy nghri. Gŵyr am fy ngwendid i, Rhannodd fy natur i, Fe’i temtiwyd ym mhob ffordd, Heb lithro dim. Duw gyda ni, Duw ynom ni, Rhydd nerth i ni, Emaniwel! Dioddefodd wawd ei hil, Sen a rhagfarnau fil, Lladdwyd yr un […]
Cerddwn ymlaen, calonnau’n dân, A bydd pob cam yn weddi îr. Planwyd gobaith a llawenydd; Clywch yr anthem drwy y tir. Ers dyddiau Crist mae’r fflam yn fyw, Ni all un dim ei diffodd hi, Mae ‘na hiraeth a dyhead Am adfywiad drwy y tir. Boed i’r fflam lewyrchu, Symud y tywyllwch, Troi y […]
Merched: Clyw ein cri, o clyw ein cri Dynion: ‘Iesu, tyrd!’ Merched: Clyw ein cri, o clyw ein cri: Dynion: ‘Iesu, tyrd!’ Mae llanw cryf o weddi, Calonnau’th blant yn llosgi. Merched: Clyw ein cri, o clyw ein cri… Dyhead dwfn sydd ynom I weld dy deyrnas nefol Merched: Clyw ein cri, o clyw ein […]