logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Dad nefol, y tragwyddol

O Dad nefol, y tragwyddol, Brenin nef a daear lawr, Fe addolwn, fe ddyrchafwn Enw ein Duw, Oen eto’n fyw, Down ger dy fron, ein gweddi clyw. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones,. Lord and Father, King forever, Noel Richards © 1982 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. […]


O Dad, dy dynerwch di

O Dad, dy dynerwch di Sydd yn toddi’m chwerwder i, O Dad, diolch am dy ras. O Dad, dy harddwch di Sy’n dileu fy hagrwch i, O Dad, diolch am dy ras. O Dad, diolch am dy ras. O Dad, diolch am dy ras. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, O Lord, your tenderness: Graham Kendrick © […]


O Dad, trugaredd rho im

O Dad, trugaredd rho im, iacha fi; O Dad, trugaredd rho im, rhyddha fi. Rho fy nhraed ar graig y gwir, Rho dy gân yn f’enaid i, f’enaid i. O Dad, trugaredd rho im. O Dad, boed i’th ras a’th gariad f’amddiffyn; O Dad, boed i’r gwir a’r unig ffordd fy arwain. Rho fy nhraed […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

O dewch i ddathlu nawr

O dewch i ddathlu nawr Ei gariad Ef, dewch i ddathlu nawr Iesu Fab Duw a’n carodd A’n gwneud yn fyw. Fe floeddiwn glod i ti. Rhoddaist lawenydd y nef i ni, Down ger dy fron ag offrwm mawl – Ein bywyd oll i ti. O dewch i ddathlu nawr (a) Llawenhau (a) chanu clod […]


O llawenhewch! Crist sydd ynom

O llawenhewch! Crist sydd ynom, mae gobaith nefoedd ynom ni: mae’n fyw! mae’n fyw! mae’i Ysbryd ynom, O codwn nawr yn fyddin, codwn ni! Fe ddaeth yr amser inni gerdded drwy y tir, fe rydd i ni bob man sethrir dan ein traed. Marchoga mewn gogoniant, concrwn wrth ei ddilyn ef; fe wêl y byd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015

O’r fath dywyllwch sy’n llethu ein byd

O’r fath dywyllwch sy’n llethu ein byd – Anghyfiawnder, a gorthrwm a phoen. Gwledydd yn llithro’i anobaith mor ddwfn, Ond trodd tyrfa fawr at yr Oen. Gwelant wrthryfel drwy’r tir – Tristwch gorffwylledd ein hil. Tyrd i’n plith ni Arglwydd Iesu, Tywallt dy Ysbryd yn awr. Tyrd i’n plith ni Arglwydd Iesu, Tywallt dy Ysbryd […]


O’r fath gyfaill yw

O’r fath gyfaill yw, Fe deimlais ei gyffyrddiad; Glyna’n well na brawd; Agosach yw na chariad. Iesu, Iesu, Iesu, Gyfaill ffyddlon. O’r fath obaith rydd – Does dim oll all gymharu: Gofal tad na mam, Fy Arglwydd – mae’n fy ngharu. (Grym Mawl 2: 149) Martin Smith: What a friend I’ve found, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon […]


Oen ein Duw

Oen ein Duw, Sanctaidd Un, Iesu Grist, Fab y dyn, Hoeliwyd ef yn fy lle ar groes; Er mwyn i mi, yr euog un, Brofi y gwaed sydd eto’n glanhau, Yn iacháu, yn maddau. Fe’th ddyrchafaf di, Iesu fy aberth i; Ti yw ’Mhrynwr i, fy Arglwydd, ti yw Nuw. Fe’th ddyrchafaf di, teilwng ydwyt […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Oleuni’r byd

Oleuni’r byd, Daethost lawr i’r tywyllwch – Agor fy llygaid i weld Harddwch dy wedd sy’n rhoi gwefr i’m henaid, Ti yw fy mywyd a’m nerth. A dyma fi’n d’addoli, Dyma fi’n ymgrymu, Dyma fi’n cyffesu, “Ti yw Nuw”; Rwyt ti mor ddyrchafedig, O! mor fendigedig, Arglwydd, mor garedig – ‘rwyt mor driw. Frenin brenhinoedd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 8, 2015

Onid yw ef yn hardd

Onid yw ef yn hardd fel y wawr? Onid yw? T’wysog Hedd, Fab ein Duw, onid yw? Onid yw’n sanctaidd Dduw? Sanctaidd Dduw, onid yw? Cyfiawn yw y Cadarn Dduw; onid yw, onid yw, onid yw? Isn’t he beautiful? John Wimber, Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones © Mercy Publishing/Thankyou Music 1980. Gwein. gan Copycare (Grym Mawl 1: 71)