Mor dda ac mor hyfryd yw bod Pobl yr Arglwydd yn gytûn. Fe ddisgyn fel gwlith ar ein tir, Neu olew gwerthfawr Duw Sy’n llifo’n rhydd. Mae mor dda, mor dda, Pan ry’m gyda’n gilydd Mewn hedd a harmoni. Mae mor dda, mor dda, Pan ry’m gyda’n gilydd ynddo ef. Mor ddwfn yw afonydd ei […]
Mor fawr yw cariad Duw y Tad, Ni ellir byth ei fesur; Fe roddodd ef ei Fab yn Iawn I achub gwael bechadur. Does neb all ddirnad maint ei boen, Pan guddiodd Duw y Tad ei wedd; Aeth t’wyllwch dudew drwy y tir Er mwyn i’n gael tangnefedd. Mor rhyfedd yw ei weld ar groes, […]
Mor fendigedig, o! Mor wych, Ydyw cariad Duw; Rhydd iachâd a maddeuant – Rhyfeddol yw! Dewch bawb i ddathlu cariad Duw yn ddyn – Awn i rannu gair y cymod, Rhannu gobaith i bob un. A chyhoeddwn fod ei deyrnas wedi dod; Dewch ymunwn yn yr anthem Sydd drwy’r tir yn seinio’i glod. Clywch y gân […]
Mor hawddgar yw dy bebyll di, Arglwydd y Lluoedd. F’enaid a hiraetha amdanat ti; Can’s diogel wyf o fewn dy dŷ. Molaf dy enw Dan gysgod clyd d’adenydd di fy Nuw. Gwell gen i ddiwrnod gyda thi, Gwell gen i gadw drws dy dŷ, Gwell gen i ddiwrnod gyda thi Na mil unman arall. Un […]
Mor rhyfeddol yw dy weithredoedd di, Arglwydd Dduw hollalluog. Gwir a chyfiawn yw dy ffyrdd o Dduw, Brenin yr oesoedd wyt ti. Pwy sydd na’th ofna Arglwydd, a’th ogoneddu di? Oherwydd ti yw’r unig Dduw, Sanctaidd wyt ti. Daw yr holl genhedloedd i’th addoli di, Dy ogoniant di a amlygir. Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Amen. Lai-lai-lai […]
Mor werthfawr, o Dduw, Yw dy drugaredd di; Fe locheswn o dan dy adenydd cu. O Arglwydd Iesu, sy’n ein digoni yn dy dŷ, Fe yfwn o ddyfroedd pur dy ras. Can’s ti ydyw ffynnon y bywyd, Ynot ti’n bywheir ni. A ti yw goleuni y bywyd, Trwot ti ’gwelwn ni. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, […]
Nefol Dad ti yw fy mywyd, ti yw f’oll, Ac fe ymhyfrydaf ynot ti, Ac fe’th garaf di, ie, fe’th garaf di, Dad, fe’th garaf di, nefol Dad. Iesu, ti yw fy nhrysor tra fwyf byw; ’Rwyt mor bur ac addfwyn, O! Fab Duw. Ac fe’th garaf di, ie, fe’th garaf di, O, fe’th garaf […]
Ni yw y bobl elwir wrth d’enw di. Fe lefwn arnat nawr, Arglwydd clyw ein cri; Yn ein gwlad sydd mor dywyll, llewyrcha trwom ni. Wrth i’n geisio d’wyneb di, O! clyw ein cri; Côd dy eglwys, cyffwrdd Gymru, Boed i’th deyrnas ddod. Côd dy eglwys, cyffwrdd Gymru, Gwneler dy ewyllys di. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon […]
Pennill 1 Rhodd o’r fath ras yw Iesu fy Ngwaredwr Cans nid oes mwy y gall y nef ei roi Ef yw ‘nghyfiawnder, rhyddid a’m llawenydd Fy nghariad triw, a’m dwfn di-derfyn hedd Cydiaf yn hyn, mae ‘ngobaith i yn Iesu Mae ‘mywyd oll ynghlwm â’i fywyd Ef Am ryfeddod o’r nef, dyma ‘nghân, codaf […]
O Arglwydd, teilwng ydwyt O’r moliant nos a dydd, Ti yw brenin y Gogoniant, A Chreawdwr popeth sydd. Fe’th addolaf di, fy mywyd rof i ti, Ymgrymaf ger dy fron. Ie, addolaf di, fy mywyd rof i ti, Ymgrymaf ger dy fron. Wrth i’th Ysbryd symud arnaf Mae’n gwella pob un briw, A dyrchafaf ddwylo’i […]