logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Clodforwn ac addolwn

Clodforwn ac addolwn, O! Arglwydd, clyw ein llef. Rwyt ti goruwch yr holl dduwiau, Greawdwr dae’r a nef. Pa fodd y mae mynegi Teimladau’r galon hon? Cyn lleied yw ein geirfa I ddechrau canu’th glod. ‘Does tafod drwy’r greadigaeth Sy’n haeddu datgan bri, Ond fe gawn ni glodfori’th enw I dragwyddoldeb hir. Nid oedd ond […]


Dad, o clyw ein cri

Dad, o clyw ein cri Boed i’n bywyd ni Fod yn un â thi – yn aberth byw. Llanw ni â’th dân, Grym yr Ysbryd Glân, Boed i’r byd dy ogoneddu di. Arglwydd Dduw, trugarha. Grist, O! clyw, trugarha. Arglwydd Dduw, trugarha. (Grym Mawl 2: 26) Andy Piercy: Father hear our prayer, Cyfieithiad Awdurdodedig: Gwion […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 10, 2015

Dyma’r rhyfeddod mwyaf un

Dyma’r rhyfeddod mwyaf un Dy fod, O! Dduw, yn Un yn Dri, Yn Drindod Sanctaidd – rwyt yn Dad, Yn Ysbryd ac yn Fab; Ein Tad o’r nef, yr Ydwyf mawr, Yn wir Fab Duw, yn Fab y Dyn, Ac eto’n rhan o’r cynllun hwn – Yr Ysbryd yma’n awr. O! Dduw, fe garem weld […]


I Dad y trugareddau’i gyd

I Dad y trugareddau’i gyd Rhown foliant holl drigolion byd; Llu’r nef moliennwch, bawb ar gân, Y Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân. Gogoniant fo i’n Tad ni, Gogoniant fo i’r Mab, Gogoniant fo i’r Ysbryd I dragwyddoldeb mad. “Teilwng yw’r Oen”, yw’r gân o’r nef Dyrchafwn Ef bob un, “Teilwng yw’r Oen” yw’n hateb […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 22, 2015

Pan yn cerdded drwy’r dyfroedd

Pan yn cerdded drwy’r dyfroedd, Nid ofnaf fi. Pan yn cerdded drwy’r fflamau, Fyth ni’m llosgir i; Rwyt wedi fy achub. Fe delaist y pris; Gelwaist ar fy enw i. Rwyf yn eiddo llwyr i ti A gwn dy fod ti yn fy ngharu – Mor ddiogel yn dy gariad. Pan mae’r llif yn fy […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015