logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dyrchafwn ganiad newydd

Dyrchafwn ganiad newydd, O Arglwydd, ger dy fron am dy amddiffyn grasol i’r demel annwyl hon: deisyfwn unwaith eto am olwg ar dy wedd lle buost drwy’r blynyddoedd yn rhoi o rin dy hedd. Bu’n tadau gynt yn dyfod o bellter bro a bryn i blygu mewn addoliad o fewn i’r muriau hyn: datguddiaist iddynt […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016

Melys ydyw cywair (Hosanna! pêr Hosanna!)

Melys ydyw cywair ein telynau glân, am fod oriau bywyd oll yn llawn o gân; nid oes gan un plentyn hawl i fod yn drist yn y fintai ffyddlon sydd yn dilyn Crist. Hosanna! pêr Hosanna!      dyrchafwn lawen lef: câr Iesu gân y galon lân,      Hosanna iddo ef! Hosanna! pêr Hosanna! Hosanna! pêr […]


O! dysg im, dirion Dad

O! dysg im, dirion Dad, Fy ngweddi fach a’m cân; Gwna fi yn well o ddydd i ddydd Dan rin dy fendith lân. Dy blentyn carwn fod, O! gwrando ar fy nghri; Dan wên yr haul, yn niwl y nos, Bydd di yn Dad i mi. O! rho yn awr i mi Dy fendith lawn […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016

Rho inni weledigaeth

Rho inni weledigaeth ar dy frenhiniaeth di sy’n estyn o’r mynyddoedd hyd eithaf tonnau’r lli; ni fynnwn ni ymostwng, yn rhwysg ein gwamal oes ond i’th awdurdod sanctaidd a chyfraith Crist a’i groes. Gwisg wisgoedd dy ogoniant sy’n harddach fil na’r wawr, a thyred i feddiannu dy etifeddiaeth fawr; a thywys, o’th dosturi, dylwythau’r ddaear […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016