Cariad yw Duw (Tôn: The Glory Song, Charles H. Gabriel)
“Cariad yw Duw”, dyma’r cysur a ddaw
beunydd i’m cadw rhag pryder a braw;
pan ddaw amheuon, daw’r cariad a’i wres
ataf i’m tynnu at f’Arglwydd yn nes.
Cytgan:
Cariad fy Nuw, gwir gariad yw,
daw imi’n rhad, daw heb nacâd;
prawf o’i anwyldeb yw cyfoeth ei wledd,
ynddi arlwyir maddeuant a hedd.
“Cariad yw Duw”, dyma’r sicrwydd a rydd
ddewrder i’w ddilyn trwy ‘mywyd mewn ffydd;
daw i’m hadfywio pan sudda fy mron,
cwyd fi a’m gosod ar ymchwydd y don.
“Cariad yw Duw”, dyma’r sylfaen ddi-ffael,
cymorth fy Nghrëwr sydd wastad ar gael;
am ei ddaioni siaradaf yn hy,
ar ei addfwynder saernïaf fy nhŷ.
“Cariad yw Duw”, dyma’r fendith a roes
hyder i Iesu pan oedd ar y groes;
digon i ‘Ngheidwad oedd cariad ei Dad,
digon i minnau yw’i gysur di-wad.
Alice Evans. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
PowerPoint