logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cariad pur fel yr eira gwyn

Cariad, pur fel yr eira gwyn;
Cariad, wyla dros g’wilydd dyn;
Cariad, sy’n talu ‘nyled i;
O Iesu, cariad.
 
Cariad, rydd hedd i’m calon i;
Cariad, leinw y gwacter du;
Cariad, ddengys sancteiddrwydd im;
O Iesu, cariad.

Cariad, dardda o orsedd Duw;
Cariad, lifa drwy hanes byw;
Cariad, ffynnon y bywyd yw;
O Iesu, cariad.

Graham Kendrick: Such love, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones a Catrin Alun
©1988 Make Way Music

(Grym Mawl 2: 123)

PowerPoint