logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cariad na bu ei fath

Cariad na bu ei fath
Yw cariad f’Arglwydd glân;
‘Gras i’r di-ras i’w gwneud
Yn raslon,’ yw ein cân;
Ond pwy wyf fi? Cadd, er fy mwyn,
Yr Iesu ei ddwyn i Galfari!

Gadawodd orsedd nef
Er dwyn iachâd i ddyn;
Ond fe’i gwrthodwyd Ef,
Y Crist, gan bawb yn un:
Fy nghyfaill yw, ffyddlonaf Un,
A roes ei hun i mi gael byw.

Y dorf ar hyd y dydd
Sy’n canu clod yn un,
A’u llon Hosanna sydd
Yn moli Mab y Dyn;
Ond cri a gaed – ‘Ymaith ag Ef!’
A’r dorf yn llefain am ei waed.

Pa beth a wnaeth fy Nghrist
I ennyn dig a brad?
Gwnaeth Ef i’r deillion weld,
A rhoi i’r cloff iachâd;
Ei gariad roes! Ond dyna pam
Rhaid diodde’r cam ar greulon groes.

Anwylaf Un, a’u gwaedd
O ddicter, rhont i fedd;
Arbedir llofrudd, ond,
Rhaid lladd Tywysog Hedd!
O’i fodd, er hyn, i’n gwneud yn rhydd,
Ein c’wilydd gymer Iesu gwyn.

Heb le i roi Ei ben,
Fy Nuw, ar ddaear lawr;
Wrth farw, benthyg bedd
A wna fy Iesu Mawr.
Ond hyn a wn – Nef oedd ei le,
A minnau’r bedd lle dodwyd hwn.

Addoli yw fy ngwaith,
Caf ganmol Brenin Nef;
Ni welwyd cariad ’chwaith
Na gofid fel gadd Ef!
Fy nghyfaill yw: ’rwyf lawen iawn
Fore a ’nawn i foli ’Nuw.

Samuel Crossman: My song is love unknown (1624-83)
cyfieithiad awdurdodedig: Dafydd Job

(Grym Mawl 2: 101)

PowerPoint