logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cariad Iesu feddianodd fy nghalon

Cariad iesu feddiannodd fy nghalon;
Cariad Iesu ennillodd fy mryd –
Cariad Iesu feddiannodd fy nghalon;
Cariad Iesu ennillodd fy mryd.

Harddach na lliwiau, O!
Dyfnach na geiriau, O!
Cryfach na theimladau, O!
C’nesach yw na thanau, O!

Dewch i ddathlu gyda mi
Rhannu’r wefr o ddilyn Iesu.
Dyma be’ di teulu’r ffydd!
Ennillodd fy mryd!
Ennillodd fy mryd!

Canwr: pawb yn canu am
gariad Iesu Grist!
Pawb: cariad Iesu Grist!
Canwr: pawb yn canu am gariad!
Pawb: cariad!
Canwr: cariad!
Pawb: cariad!

Onid yw’n dda cael byw’n
Ddiogel dan gariad Duw?
Iesu, ein Ceidwad yw!
Ennillodd fy mryd!
Ennillodd fy mryd!
Ennillodd fy mryd!
Ennillodd fy mryd!

(Jesus’ love has got under my skin): Graham Kendrick Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © 1996 Make Way Music

(Grym Mawl 2: 79)

PowerPoint