logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Caraf yr haul sy’n wên i gyd

Caraf yr haul sy’n wên i gyd,
Duw wnaeth yr haul i lonni’r byd.

Caraf y gwynt a’i gri uwchben,
Duw wnaeth y gwynt i sgubo’r nen.

Caraf y glaw a’i ddagrau hir,
Duw wnaeth y glaw i olchi’r tir.

Caraf y sêr uwch golau’r stryd,
Duw wnaeth y sêr yn lampau’r byd.

Caraf y coed a’u hadar chwim,
Duw wnaeth fy mro yn gartref im.

Caraf fy Nuw a’i waith i gyd,
creodd o’m cylch ei wyrth o fyd.

GWEN F. SMITH efel. JOHN GWILYM JONES

(Caneuon Ffydd 122)

PowerPoint