logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Caraf di

Caraf Di O Arglwydd, fy nghryfder,
Caraf Di O Arglwydd, fy nghaer,
F’amddiffynfa gadarn, Gwaredwr,
O caraf Di, caraf Di.

Yr Arglwydd yw fy nghraig,
Yr Arglwydd yw fy nghraig,
Fy nghadernid a’m tarian,
Fy noddfa a’m nerth,
Rhag pwy, rhag pwy y dychrynaf?
Yr Arglwydd yw fy nghraig,
Fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf,
Fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf.

Molaf Di O Arglwydd, fy nghrëwr,
Molaf Di O Arglwydd, fy nhad,
Ffrind ffyddlonaf posib, Gwarchodwr,
O molaf Di, molaf Di.

Pont:
Mae ‘nghadw yn ei gysgod yn nydd adfyd,
A’m cuddio yn ei babell a’m codi ar graig,
Codi ar graig.

Dweud ar ôl y gytgan:

Bydda i’n ennill y frwydr yn erbyn y gelynion o’m cwmpas
Bydda i’n cyflwyno aberthau i Dduw ac yn gweiddi’n llawen.
Bydda i’n canu a chyfansoddi cerddoriaeth i foli’r Arglwydd.
Dwi’n gwybod yn iawn y bydda i’n profi daioni’r Arglwydd ar dir y byw!
Byddwn yn ddewr a hyderus! Gobeithiwn yn yr Arglwydd!

(Salm 91:1-2; Salm 27:5)

© 2005 Elise Gwilym o’r CD Tiwnio Mewn

© 2005 Elise Gwilym o’r CD Tiwnio Mewn

PowerPoint PDF English Words MP3 Cordiau