logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Caned nef a daear lawr

Caned nef a daear lawr,
fe gaed ffynnon
i olchi pechaduriaid mawr
yn glaer wynion;
yn y ffynnon gyda hwy
minnau ‘molcha’,
ac mi ganaf fyth tra bwy’:
Haleliwia!

Dyma’r dŵr a dyma’r gwaed
redodd allan,
ac o’i ystlys sanctaidd gaed
i olchi’r aflan;
hon yw’r ffynnon sy’n glanhau
yr aflana’;
yn dragywydd mae’n parhau:
Haleliwia!

EDWARD PARRY, 1723-86

(Caneuon Ffydd 531)

PowerPoint youtube
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015