logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Canaf yn y bore

Canaf yn y bore
am dy ofal cu;
drwy yr hirnos dywyll
gwyliaist drosof fi.

Diolch iti, Arglwydd,
nid ateliaist ddim;
cysgod, bwyd a dillad,
ti a’u rhoddaist im.

Cadw fi’n ddiogel
beunydd ar fy nhaith;
arwain fi mewn chwarae,
arwain fi mewn gwaith.

Boed fy ngwaith yn onest,
rho im galon bur;
nertha fi i ddewis
rhwng y gau a’r gwir.

“Diolch iti, Arglwydd,”
yw fy llawen gân;
canaf nes im gyrraedd
bröydd Gwynfa lân.

W. BRYN DAVIES, 1865-1921

(Caneuon Ffydd 118)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015