logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Canaf am yr addewidion

Canaf am yr addewidion:
ar fy nhaith
lawer gwaith
troesant yn fendithion.

Ni fu nos erioed cyn ddued
nad oedd sêr
siriol Nêr
yn y nef i’w gweled.

Yn yr anial mwyaf dyrys
golau glân
colofn dân
ar y ffordd ymddengys.

Yng nghrastiroedd Dyffryn Baca
dyfroedd byw
ffynnon Duw
yno’n llyn a’m llonna.

I ddyfnderoedd pob caledi
nefol wawr
dreiddia i lawr:
Duw sy’n hau goleuni.

WATCYN WYN, 1844-1905

(Caneuon Ffydd 769)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015