logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Canaf am gariad fy Nuw byth bythoedd

Dros fynydd mawr a moroedd maith
Rhed afon cariad ataf i
Agoraf ddrysau nghalon gaeth
Derbyn ei iachawdwriaeth Ef.
Rwy’n hapus i fod yn y gwir
Dyrchafaf nwylo’n ddyddiol fry
A chanaf byth am ddyfod cariad Duw i lawr.

Canaf am gariad fy Nuw byth bythoedd
Canaf am gariad fy Nuw byth bythoedd
Canaf am gariad fy Nuw byth bythoedd
Canaf am gariad fy Nuw byth bythoedd.

O! mae nhraed yn dawnsio,
ffolineb yw fe wn
Ond pan ddaw’r byd i weld y gwir,
Fe ddawnsia’n llon
fel ry’m ninnau’n dawnsio.

I Could Sing Of Your Love Forever : Martin Smith, Cyfieithiad Awdurdodedig: Nia Williams
Copyright © and in this translation 1994 Curious? Music/Adm. by Integritymusic.com, a division of David C Cook songs@integritymusic.com Used by permission

PowerPoint youtube
  • Gwenda Jenkins,
  • June 8, 2015