logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cân serch o’r nefoedd

Cân serch o’r nefoedd
sy’n llenwi ein byd;
Gobaith a ddaeth i’r cenhedloedd.
Er y tywyllwch a welir bob dydd –
Llewyrcha gwir oleuni Crist.

Aeth dy efengyl drwy’r ddaear i gyd;
Atseiniodd lawr drwy’r canrifoedd.
Gwaed dy ferthyron wna d’eglwys yn gryf –
Llewyrcha gwir oleuni Crist.

Byw ry’m i ti; byddai marw yn fraint;
Dilyn yr Iesu i’r groes.
Dim ond i ti y rhown ni’n bywyd ni
Llewyrchu’r gwir ar hyd ein hoes.

Boed i bob cenedl ganu dy gân –
Dyma ddyhead dy bobl.
Awn i gyhoeddi’r efengyl yn glir!
Llewyrcha gwir oleuni Crist.

Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones,
Love songs from heaven (In this dark world a light will shine): Noel a Tricia Richards
© 1996 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/
Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 92)

PowerPoint