logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cael bod yn dy gwmni

Cael bod yn dy gwmni,
Cael eisedd i lawr,
A phrofi dy gariad
O’m cwmpas yn awr.
 
Fy nyhead i, Fy Nhad,
Yw bod gyda thi.
Fy nyhead i, Fy Nhad,
Yw bod gyda thi.

A’m pen ar dy ddwyfron
Heb gynnwrf na phoen;
Pob eiliad yn werthfawr
Yng nghwmni yr Oen.

Caf oedi’n dy gwmni
Heb ruthro i ffwrdd;
Coleddu pob eiliad
Bob tro ry’m yn cwrdd.

Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, To be in your presence (My desire): Noel Richards
Hawlfraint © 1991 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/
Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 136)

PowerPoint