logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Caed baban bach mewn preseb

Caed baban bach mewn preseb
drosom ni,
a golau Duw’n ei ŵyneb
drosom ni:
mae gwyrthiau Galilea, .
a’r syched yn Samaria,
a’r dagrau ym Methania
drosom ni;
mae’r llaw fu’n torri’r bara
drosom ni.

Mae’r geiriau pur lefarodd
drosom ni,
mae’r dirmyg a ddioddefodd
drosom ni:
mae gwerth y Cyfiawn hwnnw,
a’r groes a’r hoelion garw,
a’r cwpan chwerw, chwerw
drosom ni;
mae gwaed yr Oen fu farw
drosom ni.

Mae gorsedd y Cyfryngwr
drosom ni;
mae gweddi yr Eiriolwr
drosom ni:
mae cwmni’r apostolion,
ardderchog lu’r merthyron,
a thyrfa’r gwaredigion
drosom ni;
mae Duw a’i holl angylion
drosom ni.

ELFED, 1860-1953

(Caneuon Ffydd 365)

PowerPoint