logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Bydd yn welediad fy nghalon am byw

Bydd yn welediad fy nghalon am byw;
Dim ond tydi, a’r hyn ydwyt, fy Nuw;
Ynghwsg neu’n effro, bob awr a phob pryd,
Ti yn oleuni, Ti’n llenwi fy mryd.

Bydd yn ddoethineb, yn air gwir i mi,
Ti imi’n gwmni, a mi gyda thi;
Tydi yn Dad, a mi’n Fab ar dy lun,
Ti yn fy nghalon, a mi a Thi’n un.

Bydd i mi’n darian, fy nghleddyf i’r gâd;
Bydd yn arfogaeth, a’m nerth, O fy Nhad;
Bydd i mi’n gysgod, yn dŵr cadarn cry’,
Cwyd fi tua’r nefoedd, O nerth o’m nerth i.

Ni fynnaf gyfoeth na chlodydd y byd,
Ti’n etifeddiaeth yn awr a phob pryd;
Tydi yn unig yn Dduw ‘nghalon i,
Brenin y nefoedd, fy nhrysor wyt Ti.

Wedi’r holl frwydro, O Arglwydd pob rhi,
Dyro orfoledd y nefoedd i mi;
Geidwad fy nghalon, beth bynnag a fydd,
Bydd yn welediad, Di Heulwen fy nydd.

Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Dafydd M. Job
(Be thou my vision, Mary Elizabeth Byrne 1880-1931, Eleanor Henrietta Hull, 1860-1935)
Hawlfraint © 1996 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 10)

PowerPoint