logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Bydd yn dawel yn dy Dduw

Bydd yn dawel yn dy Dduw,
ymlonydda ynddo ef,
ac yn sŵn a therfysg byd
fe gei ynddo noddfa gref;
Duw yw fy nghraig a’m nerth
a’m cymorth rhag pob braw,
ynddo y mae lloches im
pa beth bynnag ddaw;
bydd yn dawel yn dy Dduw,
ymlonydda ynddo ef,
ac yn sŵn a therfysg byd
fe gei ynddo noddfa gref.

PETER M. THOMAS. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 146)

PowerPoint