logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Bydd gyda ni, O Iesu da

Bydd gyda ni, O Iesu da,
sancteiddia ein cymdeithas;
glanha’n meddyliau, pura’n moes
er mwyn dy groes a’th deyrnas.

O arwain ni ar ddechrau’r daith,
mewn gwaith ac ymhob mwyniant,
fel bo’n gweithredoedd ni bob un
i ti dy hun yn foliant.

Gwna’n bywyd oll yn ddi-ystaen,
boed arno raen gwirionedd;
gwna’n bro gan drugareddau’n hardd,
a’n gwlad yn ardd i rinwedd.

Gwna ni yn dystion tra bôm byw
dros gariad Duw at ddynion;
eneinia ni â’th ras o hyd,
rho d’Ysbryd yn ein calon.

Dysg inni gofio pobloedd byd
gan fyw o hyd i’w caru
nes delo’n daear yn y man
yn gyfan i’th foliannu.

W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws

(Caneuon Ffydd: 812)

PowerPoint