logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Bydd canu yn y nefoedd

Bydd canu yn y nefoedd
pan ddelo’r plant ynghyd,
y rhai fu oddi cartref
o dŷ eu Tad cyhyd;
dechreuir y gynghanedd
ac ni bydd wylo mwy,
a Duw a sych bob deigryn
oddi wrth eu llygaid hwy.

Bydd canu yn y nefoedd
pan ddelo’r plant ynghyd,
y rhai fu oddi cartref
o dŷ eu Tad cyhyd.

Mae Iesu yn darparu
trigfannau yn y nef
i wneuthur croeso helaeth
i’w holl anwyliaid ef;
dechreuant fod yn llawen
ac ni bydd gofid mwy
a Duw a sych bob deigryn
oddi wrth eu llygaid hwy

PEDR HIR, 1847-1922

(Caneuon Ffydd 715)

PowerPoint